'Y botymau economaidd allweddol'
- Cyhoeddwyd
Ewch am dro i ganolfan reoli Bae Caerdydd ac fe welwch chi mor rhwydd yw hi - i'r rheiny sy'n gwybod sut - i agor a chau giatiau'r morglawdd.
Does dim modd troi'r llanw wrth bwyso botwm falle', ond mae modd rheoli'n union faint o ddŵr sy'n llifo i'r Bae a faint sy'n llifo allan.
Edrychwch draw tua'r Senedd, ar ochr draw'r Bae ac mae hi'n stori wahanol.
Dyw'r botymau economaidd sy'n rheoli faint o arian sy'n llifo i mewn ac allan o goffrau gweinidogion Llywodraeth Cymru ddim yng Nghaerdydd.
All Carwyn Jones a'i lywodraeth ddim rheoli faint o dreth ry'n ni'n ei dalu. Dydy'r grym ddim ganddo i godi na gostwng trethi.
Cyfraddau llog?
Does dim dylanwad o gwbwl gan y llywodraeth.
Does yna ddim rhyddid llwyr i fenthyg arian chwaith.
Y gwir felly yw nad oes fawr ddim y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i effeithio ar faint o arian sydd yn y coffrau.
Yr hyn sydd ar gael yw cyfran Cymru o'r gwariant cyhoeddus sy'n cael ei ddosbarthu yn San Steffan.
Dadl y gwrthbleidiau yw bod Llafur wedi gwneud rhy ychydig â'r hyn sydd ar gael.
Annheg, meddau Carwyn Jones Prif Weinidog Cymru, sydd wedi addo fwy nag unwaith i "beidio eistedd yn ôl a gadael i'r llanw lifo drosom ni.
Yng Nghymru, efallai nad yw'r botymau economaidd i gyd gyda ni i'w pwyso ond fe allwn ni wneud gwahaniaeth i fywydau pobol."
Sut felly?
Beth am ddechrau gyda'r amlwg, grantiau i fusnesau?
Mae'r llywodraeth yn cyfeirio'n gyson at ddau gynllun wnaeth wahaniaeth, medden nhw, i fywydau miloedd o bobl.
Cynnig arian i hyfforddi staff mewn busnesau oedd yn mynd drwy gyfnod anodd oedd ProAct, tra bod ReAct yn cynnig help llaw i'r rheiny oedd eisoes wedi colli'u swyddi.
Ond i gwmnïau fel Cube Interactive, cwmni technoleg ddigidol, mae'r pwyslais ar dyfu ac ehangu.
Maen nhw, fel nifer o gwmnïau sy'n rhan o'r diwydiant creadigol, yn paratoi i wneud cais am grant i hybu'r busnes.
Dyma faes lle mae'r llywodraeth yn dadlau y gall Cymru fod yn gystadleuol, a dyma faes, felly, lle maen nhw'n barod i fuddsoddi.
Yn ôl Cyfarwyddwr Cube, Wil Stephens, fe fyddai arian ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r cwmni, yn agor y drws i brynu'r dechnoleg ddiweddaraf ac yn gwarchod - a chreu - swyddi.
Beth am fotwm arall?
Gwario arian cyfalaf, adeiladu ysgolion, ysbytai a ffyrdd, hybu'r economi drwy sicrhau fod arian yn llifo o'r gyllideb graidd i bocedi gweithwyr.
Beth am ostwng y dreth fusnes?
Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun i roi rhyddhad ar y dreth i fusnesau bach.
Mae dros hanner busnesau Cymru'n manteisio arno ond mewn gwirionedd, dilyn y patrwm dros y ffin yn Lloegr mae'r cynllun, yn sicrhau nad oes anfantais i fusnesau yma.
Mae'r llywodraeth wrthi ar hyn o bryd yn adolygu'r polisi, a sut y gellid ei ddefnyddio i hybu cwmnïau Cymreig yn y dyfodol.
Mewn gwlad fach mae modd i lywodraeth ganolog greu cysylltiadau rhwng pobol a'i gilydd, ymateb yn gyflym i anghenion cwmnïau sy'n dod ar ei gofyn, agor drysau i'r rheiny sydd angen hwb.
Y botymau economaidd allweddol?
Dyw'r rheiny, yn sicr, ddim ym Mae Caerdydd.
Ond yr her i Carwyn Jones fydd dangos fod yr hyn y gall e'i wneud yn gweithio yn troi'r llanw o blaid economi Cymru, wrth lwyddo i roi'r bai am y dyfroedd ariannol dyfnion ar lywodraeth yr ochr draw i Bont Hafren.
Bydd mwy o fanylion am adroddiad y Swyddfa Ystadegau ar raglenni Newyddion BBC Cymru yn ystod yr wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2011