Dathlu 90 mlynedd o ddarlledu gan y BBC ym Mangor

Wedi i BBC Bangor agor yn 1935, symudodd y gorfforaeth yr adran adloniant ysgafn yno yn 1940 oherwydd effaith yr Ail Ryfel Byd
- Cyhoeddwyd
"Rydym, mewn anrhydedd, yn rhwymedig i wneud ein gorau i ymuno ac amddiffyn unrhyw aelod arall o'r gynghrair."
Dyma'r geiriau cyntaf i gael eu darlledu gan y BBC ym Mangor ar 1 Tachwedd 1935.
Araith gan y cyn-Brif Weinidog David Lloyd George i'r genedl oedd hi, araith a nododd ddechrau ar 90 mlynedd o ddarlledu gan y BBC o'r ddinas.

Y cyn-Brif Weinidog David Lloyd George oedd y cyntaf i ddarlledu o Fangor
Pedair blynedd ar ôl araith Lloyd George fe ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, gan roi'r BBC ym Mangor ar y map.
"Roedd yr Ail Ryfel Byd yn bwysig iawn i'r stiwdio ym Mangor," meddai'r athro mewn ffilm, teledu a'r cyfryngau, Jamie Medhurst.
"Roedd rhaid i'r BBC symud sawl adran allan o Lundain ar y pryd oherwydd y bomio oedd yn digwydd.
"Bangor felly daeth yn gartref dros dro i'r adran adloniant ysgafn."

Mae'r Athro Jamie Medhurst yn dweud bod canolfan y BBC ym Mangor wedi chwarae "rôl hanfodol" wrth gynyddu cynnwys darlledu yn y Gymraeg
Roedd enwau adnabyddus fel Tommy Handley o'r sioe boblogaidd ITMA (It's That Man Again) a Sandy Macpherson yr organydd nawr yn darlledu o Fangor.
"Dyma raglenni oedd yn cael eu cynhyrchu er mwyn codi morâl yn ystod y rhyfel yn dod o Fangor, felly mae angen gwerthfawrogi a chydnabod bod Bangor wedi chwarae rôl mewn hynny o beth," meddai.
"Ac yn sicr mi oedd yna dristwch o fewn y tîm adloniant ar ôl y rhyfel pan oedd rhaid symud 'nôl i Lundain oherwydd bod nhw wedi mwynhau eu cyfnod yn y ddinas."
Ychwanegodd: "Tu hwnt i'r rhyfel mae'r ganolfan ym Mangor wedi chwarae rôl hanfodol yn ymateb i anghenion siaradwyr Cymraeg drwy ddarparu amrywiaeth o raglenni, ac mae'n parhau i wneud heddiw."

Cafodd organ ei chludo i Fangor ar gyfer rhaglenni Sandy MacPherson, organydd theatr swyddogol y BBC yn ystod y rhyfel
Un o brif gynigion y BBC dros y degawdau diwethaf i siaradwyr Cymraeg yw Radio Cymru.
Dechreuodd y gwasanaeth yn 1977 ac ers hynny mae tua hanner y rhaglenni wedi dod o Fangor.
Un oedd yna o'r cychwyn cyntaf ac sy'n dal i ddarlledu ar y gwasanaeth ydy Dei Tomos:
"Mi ddechreuais i weithio i'r BBC yn llawrydd yn 1977, cyflwyno Disco Dei. O mae hynny yn mynd a rhywun yn ôl yn bell."

Ymunodd Dei Tomos â'r BBC yn 1977
Ychwanegodd bod y cyfle i weithio o'r gogledd yn un arbennig.
"Roedd yn eithriadol o bwysig bod y BBC wedi creu'r ganolfan yma ym Mangor achos cyn hynny rhyw gilcyn o ddaear mewn cilfach gefn oedd Cymru mewn gwirionedd cyn belled ag oedd y BBC yn y cwestiwn.
"Mi oedd sefydlu Bangor yn rhoi cyfle i bobl ddarlledu o'r gogledd yn hytrach na bod nhw 'mond yn medru darlledu o Gaerdydd gan roi cyfleoedd i bobl.
"Ac ar un adeg mi oedd y rhwydwaith yma yn bwysig bod Abertawe, Aberystwyth, Caerfyrddin, Bangor a Wrecsam yn medru cyfrannu."
Ychwanegodd: "Mae hwnnw wedi lleihau rywfaint, ond mae Bangor wedi dal ei dir ac oes mae yna enwau mawr wedi datblygu gyrfa ac wedi symud yn eu blaenau o Fangor ac mae eu gwreiddiau nhw yn fan hyn ym Mryn Meirion. Mae'r enw Bryn Meirion yn sefyll dros rywbeth."

Mae Marian Wyn Jones yn gyn-bennaeth y BBC ym Mangor
Un arall oedd yn rhan o lansiad Radio Cymru oedd Marian Wyn Jones, cyn-bennaeth y BBC ym Mangor.
"Dwi'n teimlo'n eithriadol o falch o'r rhan fach nes i chwarae ar hyd y naw degawd.
"Dwi'n meddwl yn benodol falle am ddechrau Radio Cymru a Radio Wales, o'n i'n rhan fach o'r weledigaeth gychwynnol honno felly.
"Da ni wedi gweld twf darlledu teledu o'r gogledd am ran o'r cyfnod yna," meddai.
"Ond yn bwysicaf oll... mae angen i'r ganolfan yma barhau i gyfrannu a bod yn gonglfaen darlledu Cymraeg o'r gogledd."

Mae Dewi Llwyd wedi cyflwyno sawl rhaglen o Fangor dros ei yrfa
Erbyn heddiw mae Radio Cymru 2 hefyd wedi ei sefydlu, gyda sawl un o raglenni'r orsaf dod o Fangor.
Yn ôl y darlledwr Dewi Llwyd, sydd wedi cyflwyno nifer o raglenni newyddion o Fangor, mae'r ganolfan yn parhau'n hanfodol bwysig.
"Mae BBC Bangor wedi bod yn gonglfaen i ddarlledu Cymraeg o'r dechrau'n deg... ac mae'n parhau, gan obeithio bydd yn parhau am ddegawdau i ddod hefyd, achos mae'n dangos ymrwymiad y BBC ar hyd y blynyddoedd i'r Gymraeg yn y rhan yma o'r byd," meddai.
Ychwanegodd ei bod hi felly'n "dyngedfennol" bod presenoldeb rhaglenni fel Post Prynhawn a Dros Ginio "yn rhannol erbyn heddiw beth bynnag yn parhau yn y rhan yma o'r byd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst
  
- Cyhoeddwyd20 Ebrill
 