'Ofn unrhyw beth poeth' ar ôl llosgi wrth i goelcerth ffrwydro

Siân Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Siân Morgan losgiadau difrifol dros 10% o'i chorff wedi'r digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Lanelli'n dweud fod dioddef llosgiadau difrifol wrth i goelcerth ffrwydro wedi golygu bod ganddi bellach ormod o ofn i ddiffodd y canhwyllau ar gacennau pen-blwydd ei phlant.

Fe ddioddefodd Siân Morgan, 44 oed, losgiadau difrifol dros 10% o'i chorff ar ôl i goelcerth fach yn yr ardd "ffrwydro fel bom".

"Roedd fy wyneb i'n ddu, doedd gen i ddim croen. Dwi wedi colli rhan o fy nghlust ac wedi llosgi fy ngwddf, fy mreichiau a fy nwylo - mae wedi bod yn ofnadwy," meddai.

Daw stori Ms Morgan wrth i Brif Swyddog Meddygol Cymru rybuddio pobl i gymryd gofal wrth i noson tân gwyllt agosáu o ystyried y pwysau ar y gwasanaethau brys.

Fe neidiodd Ms Morgan i'r llawr a gwingo mewn poen tra bod ei gŵr yn ceisio diffodd y fflamau ar hyd ei chorff.

Mae hi hefyd yn cofio ysgwyd mewn sioc ar ôl i ddŵr gael ei chwistrellu arni cyn i'r criw ambiwlans gyrraedd.

Cafodd ofal argyfwng cyn iddi gael ei chludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe.

'Popeth wedi newid yn llwyr'

"Mae wedi bod yn wyth mis anodd, ond dydi hyn ddim drosodd eto," meddai Ms Morgan.

"Rydw i wedi cael llawdriniaethau ar fy ngwddf a dwi angen llawdriniaeth ar fy ngheg.

"Mae'r holl beth wedi bod yn ofnadwy. Mae gennym ni ddwy ferch sy'n eu harddegau ac mae wedi bod yn anodd i bawb addasu.

"Roedden nhw wedi dychryn gymaint pan welon nhw fi am y tro cyntaf.

"Do'n i methu mynd yn agos at gacennau pen-blwydd y plant eleni er mwyn diffodd y canhwyllau.

"Dwi jest ddim eisiau bod yn agos at unrhyw beth poeth, tannau neu wreichion.

"Mae popeth wedi newid yn llwyr."

Dr Nia Wyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r broses o adfer o losgiadau difrifol yn gallu "mynd ymlaen am fisoedd neu flynyddoedd," meddai Dr Nia Wyn Davies

Dywedodd Dr Nia Wyn Davies, sy'n ymgynghorydd gofal dwys ac sy'n arbenigo ar ofal i gleifion llosgiadau, fod llosgi'r wyneb yn arbennig yn cael effaith ar gleifion.

"Cael pobl i oroesi'r anaf yw swydd rhywun fel fi, ond rili fi'n teimlo bod siwrne'r claf yn dechrau mewn gwirionedd pan maen nhw'n gadael yr uned gofal dwys," meddai.

"Wedyn mae cyfnod o adferiad ac yn aml maen nhw'n gorfod dod 'nôl ac ymlaen am lawdriniaeth sawl gwaith ac mae hynny'n gallu mynd ymlaen am fisoedd neu am flynyddoedd, felly mae'n cael effaith anferthol ar fywydau pobl.

"Gyda'r 5 Tachwedd yn dod lan ni'n ymwybodol y bydden ni'n gweld mwy o gleifion ag anafiadau llosg na welwn ni trwy weddill y flwyddyn."

'Sicrhau bod mesurau diogelwch'

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver: "Mae'n bwysig iawn fod unrhyw un sy'n mynd i ddigwyddiadau yn sicrhau bod mesurau diogelwch yn cael eu gweithredu.

"Os ydych chi'n cael eich llosgi y peth pwysicaf yw symud yr unigolyn i ffwrdd o ffynhonnell y gwres.

"Tynnwch unrhyw ddillad neu emwaith sydd o amgylch y clwyf os yn bosib, ac yna mae angen tywallt dŵr oer ar y man sydd wedi llosgi am oddeutu 20 munud.

"Wedi hynny defnyddiwch cling film i orchuddio'r llosg."

Ychwanegodd os yw'r llosg yn ddifrifol iawn neu'n effeithio ar ran mawr o'r corff yna dylid gofyn am gyngor gan y gwasanaeth iechyd.

Michael Hill
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Hill yn gofyn i bobl gymryd gofal wrth roi ffyn gwreichion (sparklers) i blant

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod yn cael eu galw i nifer o dannau bwriadol yn ystod adeg hon y flwyddyn, sy'n golygu bod adnoddau "dan straen aruthrol".

"Fe allai'r adnoddau hynny gael eu defnyddio mewn argyfwng gwirioneddol, felly dydyn ni ddim eisiau gorfod ymateb i'r galwadau diangen yma," meddai Michael Hill o'r gwasanaeth.

Ychwanegodd fod llosgi gwastraff ar goelcerthi yn gallu creu mwg all achosi niwed.

Mae'n awgrymu hefyd i rieni wirio beth yw defnydd dillad eu plant, ac i sicrhau eu bod wedi eu gwneud o "ddeunyddiau naturiol yn hytrach na rhai synthetig" gan fod y rheini yn llai fflamadwy.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig