'Gandryll' yn sgil oedi cynllun ar gyfer meddygfa newydd yn Waunfawr

Mae trigolion lleol wedi bod yn aros 15 mlynedd am ganolfan iechyd newydd yn ôl Edgar Owen
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer canolfan iechyd newydd hir-ddisgwyliedig yng Ngwynedd yn wynebu rhwystr arall gan adael trigolion lleol yn "gandryll".
Mi fyddai'r feddygfa newydd - ar dir ger Fferm Cross ar Ffordd y Waunfawr - yn darparu cyfleusterau pwrpasol a mwy hygyrch i bobl Waunfawr a Llanrug, ond mae pryderon cynyddol yn sgil oedi yn y broses gynllunio.
Yn ôl y cynghorydd lleol Edgar Owen, mae'r bobl leol yn "haeddu gymaint gwell" ac mae Siân Gwenllian, yr Aelod o'r Senedd dros Arfon, yn dweud ei bod wedi codi'r mater sawl gwaith ond bod dim wedi newid.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn deall rhwystredigaeth y gymuned leol ond eu bod am "roi sicrwydd bod y datblygiad hwn yn flaenoriaeth".
- Heriau 'aruthrol' yn wynebu meddygon teulu - Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2023
 
- Mwy o gleifion yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth - Cyhoeddwyd23 Hydref
 
- 'Gorbryder fy mab yn mynd trwy'r to tra'n aros am asesiad' - Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
 
Mae'r cyfleusterau newydd yn cael eu disgrifio fel rhai "hanfodol" yn lleol gydag adroddiadau o gleifion yn cael eu gweld mewn coridorau, cabanau a'r gegin hyd yn oed.
Dywedodd Edgar Owen fod "pobl yr ardal wedi bod yn disgwyl am 15 mlynedd i hyn ddigwydd".
"Mae dros 6,000 o gwsmeriaid yn mynd drwy ddrws ein swyddfa doctor ar hyn o bryd, ond dydy'r adeilad ddim yn addas, ma' cleifion yn cael apwyntiadau mewn porta cabins," ychwanegodd.
Pwysleisiodd ei fod yn "gandryll am y peth" a'i fod yn annheg ar y bobl leol a "staff gweithgar y feddygfa sy'n gwneud eu gorau glas dan amodau cwbl annigonol".
Mae'r sefyllfa yn 'dorcalonnus'
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, ychwanegodd Edgar Owen fod y sefyllfa yn un "dorcalonnus".
"Yn lle ma' hi rŵan - hen siop ydy hi a thŷ cyn hynny. Ma' bobl yn gorfod mynd i fyny'r grisia' i weld nyrsys.
"Ma' 'na bedwar caban bach y tu allan, lle 'da chi'n gorfod mynd i weld nyrsys. Mae o'n anaddas – 'not fit for purpose' fel ma' rywun yn ddeud."
Esboniodd y cynghorydd fod rhywbeth yn rhwystro'r prosiect rhag mynd yn ei flaen dro ar ôl tro a'i bod hi'n bryd i'r llywodraeth weithredu.
"Ma' pawb wedi cael llond bol arna' fo rŵan de, mai'n amser i'r Llywodraeth 'neud y peth iawn. Mae o'n dorcalonnus, mae'r doctoriaid wedi hitio'r llawr a phobl y pentre' hefyd.
"Ma'r amser am siarad drosodd, mai'n amser iddyn nhw neud o."

Dywedodd Siân Gwenllian mai dyma un o'r materion cyntaf iddi godi ar ôl cael ei hethol yn 2016
Mae Siân Gwenllian yn dweud ei bod wedi "codi'r mater yma'n barhaus ers cael fy ethol".
"Dyma oedd un o'r materion cyntaf i mi godi fel Aelod newydd o'r Senedd yn ôl yn 2016," meddai.
"Nes i rybuddio bod yna sefyllfa dyngedfennol yn Waunfawr a bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llusgo eu traed."
Ychwanegodd ei bod wedi galw'n barhaus ar Lywodraeth Cymru hefyd i ddatblygu canolfannau iechyd o'r fath "fel rhan hanfodol o'r gadwyn gofal sydd ei hangen arnom ar gyfer y dyfodol".
"Ond eto dyma ni, bron i ddegawd yn ddiweddarach ac mae'r un llusgo traed yn digwydd - nid yn unig yn Waunfawr ond hefyd yn Nyffryn Nantlle ac ym Mangor".
Dywedodd ei fod yn "gwbl annerbyniol ein bod ni dal i aros".
'Deall rhwystredigaeth y gymuned'
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer, eu bod yn "deall rhwystredigaeth y gymuned leol".
"Yn dilyn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni er mwyn caniatáu datblygu cynlluniau manylach, mae'r bwrdd iechyd wedi gweithio gyda Phractis Meddyg Teulu Waunfawr i gwblhau Achos Cyfiawnhau Busnes," meddai.
Ychwanegodd mai'r "bwriad yw i'r achos busnes gael ei drafod yn ystod cyfarfod o'r bwrdd dros y misoedd sydd i ddod er mwyn cael ei gymeradwyo o bosibl ac i gael ei gyflwyno'n ddiweddarach i Lywodraeth Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar eu cynlluniau i wella mynediad i ofal sylfaenol ac yn aros i gyflwyno'r achos busnes ar gyfer Hwb Gofal Sylfaenol Waunfawr."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.