Swyddfeydd DVLA: Colli 1,200 o swyddi
- Cyhoeddwyd
Fe allai dros 1,200 o swyddi gael eu colli fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Prydain i gau 39 o swyddfeydd asiantaeth drwyddedu'r DVLA.
Mae disgwyl i'r swyddfeydd gau erbyn diwedd 2013.
Y gred yw y bydd y gwasanaethau yn cael eu canoli yn Abertawe ac mae'n bosib y bydd 400 o swyddi'n cael eu hadleoli yn y ddinas.
Mae 'na dair swyddfa ranbarthol yng Nghymru gyda 77 o bobl yn cael eu cyflogi ym Mangor, Caerdydd ac Abertawe.
'Yn haws'
Yn ôl y llywodraeth, fe fyddai'r cynlluniau yn arwain at arbedion o tua £28 miliwn y flwyddyn.
"Mae hwn yn gam at newid sylweddol fydd yn ei gwneud yn haws ac yn gynt i yrwyr a busnesau ar hyd a lled Prydain ddelio gyda'r asiantaeth," meddai Mike Penning, Gweiniodg Ffyrdd Llywodraeth San Steffan.
"Dwi'n credu y bydd y newidiadau yma yn gwella'r gwasanaethau ac yn arwain at well gwasanaeth gan y gweithlu."
Dywedodd yr Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol eu bod yn ofni fod penderfyniad terfynol wedi bod.
Rhybuddiodd y byddai cau swyddfeydd yn golygu y byddai gwasanaeth wyneb wrth wyneb o anasawdd uchel yn diflannu.
'Ysgytwol'
Mae'r Ysgrifennydd Cyffredinol, Mark Serwotka, wedi dweud: "Roedd yr asiantaeth wedi gwadu bod bwriad i dorri swyddi.
"Bythefnos cyn y Nadolig mae'r cyhoeddiad yn sarhaus ac yn ysgytwol."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ei bod yn falch y byddai canoli yn Abertawe.
"Mae'r adolygiad yn bwysig, yn golygu mwy o ddewis a mwy o ystwythder i yrwyr wrth gyrraedd y gwasanaethau y maen nhw eu hangen."
Ond dywedodd AC Llafur Gogledd Caerdydd, Julie Morgan, ei bod yn siomedig y byddai hyd at 35 o swyddi'n diflannu yn swyddfa Llanisien.
Mae Hywel Williams, AS Arfon, wedi dweud nad yw'r newyddion yn dda i Fangor.
'Ofnadwy'
"Mae amseru'r cyhoeddiad yn ofnadwy - wythnos neu ddwy cyn y Nadolig - yn enwedig pan gafodd y cynlluniau eu rhyddhau dros flwyddyn yn ôl," meddai.
"Mae dwsin o bobl yn cael eu cyflogi ym Mangor a dyma unig ganolfan ranbarthol o'i fath yng ngogledd Cymru.
"Fe fydd yn golygu llai o wasanaethau i'r cyhoedd a bydd yn cael effaith ar yr economi lleol."
Ychwanegodd bod 'na sgil effeithiau dybryd o ran y Gymraeg gyda chau'r ganolfan yng ngogledd Cymru.
"Fel y gwelwyd efo cau Swyddfa Tollau a Chyllid ym Mhorthmadog a Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi, fe fyddwn yn gwneud achos cryf iawn y dylai gwasanaethau Cymraeg barhau i fodoli mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith."
Ers dechrau'r 70au mae'r DVLA wedi bod yn cadw cofnod o drwyddedau gyrwyr.
36 miliwn
Mae'r asiantaeth, sy'n cyflogi 6,116 o bobl, yn cofrestru 36 miliwn o geir a 44 miliwn o yrwyr.
Rhan o waith gweinyddol y swyddfeydd rhanbarthol yw trefnu platiau masnach ar gyfer garejis, archwilio cerbydau a throsglwyddo manylion platiau ceir preifat.
Mae yna 10 swyddfa yn gyfrifol am waith gweinyddol sy'n gysylltiedig â throseddau fel methu â thrwyddedu ceir, methu â chael yswiriant dilys neu fethu â chofnodi manylion cywir.
Fe fydd y newidiadau hefyd yn arwain at ganiatáu i yrwyr yng Ngogledd Iwerddon gael yr holl wasanaethau ar-lein sydd ar gael eisoes yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Fe ddaw'r ymgynghoriad gyda staff ac undebau i ben ar Fawrth 6, 2012.