Dementia: Dioddefwyr yn cael eu twyllo
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yng Nghymru sydd â dementia yn cael eu twyllo o £5 miliwn, yn ôl adroddiad newydd gan Gymdeithas Alzheimer's.
Yn yr adroddiad, mae'r elusen yn amcangyfrif bod mwy na 6,000 (15%) o bobl gyda dementia yng Nghymru wedi dioddef cam-drin ariannol, gan gynnwys post neu alwadau ffôn twyllodrus neu gam-werthu.
Mae'r adroddiad - 'Short changed: Protecting people with dementia from financial abuse' - yn galw am bobl sydd â'r cyflwr i gael eu hamddiffyn yn well.
Mae'r arbenigwr ariannol Martin Lewis wedi ychwanegu ei lais at alwad yr elusen ar adrannau Safonau Masnach a'r banciau i benodi 'pencampwyr dementia' er mwyn atal y troseddu yma.
Bydd galwad hefyd ar awdurdodau lleol i glustnodi arian i adrannau Safonau Masnach mewn hinsawdd o doriadau mewn gwariant cyhoeddus.
'Crafu'r wyneb'
Dywed yr adroddiad bod 62% o ofalwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn dweud fod y bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw wedi derbyn galwad ffôn neu bobl ar y stepen drws.
Arweiniodd yr arfer yma at bobl yn cael eu twyllo o filoedd o bunnoedd a dioddef straen, blinder a rhwystredigaeth o ganlyniad.
"Rydym ond yn crafu'r wyneb o broblem frawychus cam-drin ariannol yn yr adroddiad," meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer's Cymru yw Sue Phelps.
"Yn rhy aml mae twyllwyr yn taro ergyd arall yn erbyn pobl sydd eisoes yn wynebu costau gofal uchel a chymdeithas sydd ddim yn deall eu hanghenion.
"Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd gyda'r banciau, awdurdodau lleol ac wrth gwrs y cyhoedd y gallwn newid y sefyllfa a dechrau'r Flwyddyn Newydd gyda gobaith newydd."
Cyngor
Mae'r Gymdeithas Alzheimer's yn datblygu rhaglen hyfforddi ymwybyddiaeth dementia sy'n cael ei gynnig i sefydliadau fel banciau.
Mae'r elusen hefyd wedi cyhoeddi cynghorion ar sut i osgoi cael eich twyllo, ac mae yna bum pwynt:-
Trafodwch reoli arian gyda'ch teulu - mae arian yn gallu bod yn bwnc anodd ei godi, ond mae'n bwysig cynllunio sut i ofalu am eich arian os na fyddwch yn medru gwneud hynny eich hunan;
Sefydlwch Bŵer Atwrnai Parhaol - mae hyn yn galluogi person gyda dementia i ddewis rhywun y maen nhw'n ymddiried ynddo i fod yn gyfrifol am bethau fel talu biliau a chasglu incwm pan na fyddan nhw'n medru gwneud y penderfyniadau yna eu hunain;
Siaradwch gyda rheolwr banc lleol - dylai pobl â dementia a'u gofalwyr siarad gyda'u rheolwr banc cyn gynted â phosib er mwyn canfod y gefnogaeth sydd ar gael wrth geisio rheoli arian;
Ataliwch bost a galwadau ffôn digroeso - mae nifer o ffyrdd o wneud hyn, fel cofrestru gyda'r Gwasanaeth Post Dewisol ac ymuno gyda'r Gofrestr Dewis Teleffon;
Gosodwch arwydd 'dim ymwelwyr hap' ar eich drws - gallwch gael yr arwyddion o'ch adran Safonau Masnach leol.
Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi gan Gymdeithas Alzheimer's Cymru ddydd Mercher, Rhagfyr 14,2011.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2011