11,000 yn fwy yn ddi-waith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Roedd 133,000 o bobl yng Nghymru yn ddi-waith rhwng mis Awst a mis Hydref, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Mae hyn dros 9% o'r gweithlu posib yng Nghymru ac 11,000 yn fwy o'i gymharu â'r tri mis blaenorol.
Mae hefyd 8,000 yn fwy na'r un amser y llynedd.
Trwy Brydain roedd dros 2.638 miliwn o bobl yn ddi-waith rhwng mis Awst a mis Hydref, y nifer uchaf ers 1994.
Cwmni gwyliau
Daw'r cyhoeddiad wrth i un o gwmnïau teithio mwya' Prydain, Thomas Cook, gyhoeddi cannoedd o ddiswyddiadau.
Dydd Mercher dywedodd y cwmni y bydd dros 600 o bobl yn colli eu gwaith wrth iddyn nhw gau nifer o'u siopau drwy Brydain.
Mae gan y cwmni nifer o siopau yng Nghymru ond does dim manylion eto ynglŷn â pha siopau fydd yn cau.
Yn y cyfamser, mae nifer y rhai sy'n gwneud cais am fudd-daliadau wedi gostwng 300 i 78,000 drwy Brydain.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae 'na gynnydd yn nifer y rhai sydd mewn gwaith - 38,000 yn uwch na'r ffigwr blaenorol.
Ac mae'r ystadegau yn nodi sefydlogrwydd o ran diweithdra ymhlith yr ifanc.
Does 'na ddim newid yn y nifer drwy Brydain sy'n chwilio am waith ac wedi gadael addysg llawn amser, 730,000.
Dywedodd Chris Grayling, Gweinidog Cyflogaeth Llywodraeth San Steffan, fod yr ystadegau diweddaraf yn rhoi arwydd bod y farchnad llafur yn sefydlogi.
"Mae nifer y rhai sydd mewn gwaith yn uwch na'r ffigyrau a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd ac mae nifer y bobl sy'n ddi-waith yn sefydlogi.
"Mae'n galonogol o ran ein pobl ifanc hefyd."
Ffigurau GVA
Mae ffigurau ar wahân yn dangos bod cyfanswm gwerth y cynnyrch a'r gwasanaethau yng Nghymru yn ystod 2010 wedi cynyddu 3.5% o'i gymharu â'r flwyddyn cynt - i £45.5bn.
Mae'r canlyniadau fymryn yn well nag yng ngweddill Prydain, ble roedd y cynnydd ar gyfartaledd yn 3.2%.
Ynghyd â Dwyrain Canolbarth Lloegr, Cymru a welodd y cynnydd mwya' mewn cyfraniad i gyfoeth economaidd Prydain (GVA) - cynnydd o 3.3% o'i gymharu â chyfartaledd o 2.4% ar draws y DU.
Ond mae cyfraniad Cymru - 74% ar gyfartaledd - yn parhau i fod yr isa' ymhlith gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr.
Dyw safle Cymru o fewn y tabl GVA ddim wedi newid ers 1998, pan ddisgynnodd islaw Gogledd Iwerddon.
Gwelwyd cynnydd bychan yng nghyfraniad gorllewin Cymru a'r Cymoedd, sydd wedi derbyn biliynau o bunnoedd gan yr Undeb Ewropeaidd. Roedd allbwn wedi codi o 62.6% yn 2008 i 62.8% yn 2009.
Dywedodd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Fusnes, Mentergarwch, Technoleg a Gwyddoniaeth, Edwina Hart, fod 'na "elfennau positif amlwg" yn y ffigurau a gyhoeddwyd ddydd Mercher.
'Cydbwysedd'
"Fe welon ni gynnydd mawr mewn GVA yn 2009, ac fe lwyddon ni i gau'r bwlch rhyngom ni a gweddill y DU ychydig, ond dim digon i newid ein safle o fewn y DG.
"Mae hynny oherwydd mai gwendidau tymor hir o fewn economi Cymru sydd y tu ôl i'r ffigurau hyn - dyn pam bod angen i'r Llywodraeth edrych ar bolisïau hirdymor.
"Mae'r ffigurau byd gwaith yn rhoi darlun mwy cyfoes i ni o'r hyn sy'n digwydd ym mywydau pobl heddiw - ym musnesau Cymru heddiw - nid dwy flynedd yn ôl.
"Ac ry'n ni eisiau gweithredu'n syth i fynd i'r afael â'r anawsterau mae pobl yn eu hwynebu.
"Fel Gweinidog mae'n rhaid i mi gael cydbwysedd rhwng lleihau'r pwysau yn y tymor byr a delio â materion strwythurol yn yr hirdymor.
"Dyna pam fy mod i'n buddsoddi mewn isadeiledd fel band eang ar gyfer y tymor hir, yn ogystal â chyflwyno mesurau fel y gronfa Twf Economaidd i helpu busnesau heddiw."
'Siomedig'
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, fod yr ystadegau bod mwy yn ddi-waith yng Nghymru yn siomedig.
"Ond mae 'na newyddion gwell, bod llai yn hawlio budd-dal chwilio am waith.
"Mae 'na hwb hefyd o ran yr ystadegau GVA hefyd.
"Mae'n dangos bod Cymru yn tyfu yn gynt nag unrhyw wlad arall ym mlwyddyn gyntaf y Llywodraeth Geidwadol."
Wrth ymateb i ffigyrau GVA dywedodd Nick Ramsay, llefarydd y Ceidwadwyr ar Fusnes yn y Cynulliad, fod Cymru wedi datblygu i fod yr ardal fwya' tlawd o'r DG o dan y Blaid Lafur.
"Wedi 12 mlynedd o lywodraeth Llafur yn y Cynulliad, mae Cymru yn parhau ar waelod y tabl.
"Mae Llafur wedi gwastraffu biliynau o arian o Ewrop ac wedi methu creu swyddi a chyfleoedd ar gyfer cynnydd economaidd.
"Er bod y 12 mis diwethaf wedi gweld arwyddion o wella, mae angen i weinidogion Llafur ddechrau cymryd rheolaeth.
"Fe fyddwn ni fel gwrthblaid yn parhau i roi pwysau ar y llywodraeth i gwtogi graddfa busnes, creu swyddi a sefydlu ardaloedd menter er mwyn creu Cymru lwyddiannus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2011