ASau yn holi pennaeth corff arholi

  • Cyhoeddwyd
CBACFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

CBAC: Wedi cynnal ymchwiliad trylwyr

Mae Prif Weithredwr CBAC gerbron pwyllgor Aelodau Seneddol wedi honiadau papur newydd fod arholwyr wedi torri rheolau.

Pwyllgor Dethol Addysg San Steffan sy'n holi Gareth Pierce ddydd Iau.

Roedd y Daily Telegraph wedi honni bod athrawon yn Lloegr wedi cael gwybodaeth mewn seminarau byrddau arholi am gwestiynau fyddai'n cael eu cynnwys mewn arholiadau Safon Uwch a TGAU.

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd CBAC fod dau arholwr wedi eu gwahardd o'u gwaith am y tro.

Fe fydd yr Aelodau Seneddol hefyd yn holi prif weithredwyr tri o fyrddau arholi Lloegr.

Mae'r corff sy'n arolygu arholiadau yn Lloegr, Ofqual, a chynrychiolwyr y papur newydd wedi cael gwahoddiad i roi tystiolaeth gerbron y pwyllgor.

Dywedodd Graham Stuart AS, cadeirydd y pwyllgor: "Mae'r Telegraph wedi gwasanaethu'r cyhoedd wrth roi sylw i weithgareddau rhai arholwyr.

"Mae'r straeon yn frawychus ac mae yna awgrym o bosib fod angen newidiadau pellgyrhaeddol."

Trylwyr

Nos Fercher dywedodd CBAC eu bod wedi cynnal ymchwiliad trylwyr.

Mae'r corff arholi wedi casglu na fyddai effaith andwyol ar arholiadau'r corff yn y dyfodol yn sgil honiadau fod rhai uwcharholwyr wedi rhoi "cyngor" i athrawon.

Dywedodd llefarydd eu bod yn cydweithio yn agos gydag ymchwiliadau yng Nghymru a Lloegr.

"Rydym am sicrhau athrawon, myfyrwyr a rhieni y gallan nhw fod yn gwbl hyderus yn safonau'r cymwysterau yr ydym yn eu cynnig," meddai.

"Mae'r rheoleiddwyr yn monitro'n drylwyr safon ein cymwysterau a'n hasesiadau."

Yn ôl yr ymchwiilad, ni fyddai athrawon ar y cwrs hyfforddi TGAU wedi cael mantais annheg oherwydd y "cyngor".

Roedd y papur newydd wedi honni iddyn nhw ffilmio arholwr yn dweud wrth athrawon ba gwestiynau i'w disgwyl mewn arholiad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol