CBAC wedi cynnal ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
CBACFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

CBAC: Dim effaith andwyol ar arholiadau

Mae'r corff arholi CBAC wedi dweud eu bod wedi cynnal ymchwiliad trylwyr wedi i ddau arholwr gael eu gwahardd o'u gwaith am y tro.

Yr wythnos diwetha fe gyhoeddodd y Daily Telegraph honiadau fod dau arholwr wedi dweud wrth athrawon ba gwestiynau oedd yn debyg o godi mewn arholiad.

Mae disgwyl i'r ddau arholwr a Phrif Weithredwr CBAC, Gareth Pierce, ymddangos gerbron pwyllgor Aelodau Seneddol ddydd Iau.

Honnodd y papur fod athrawon yn Lloegr wedi cael gwybodaeth mewn seminarau byrddau arholi am gwestiynau fyddai'n cael eu cynnwys mewn arholiadau Safon Uwch a TGAU.

Mae CBAC wedi casglu nad oes effaith andwyol ar arholiadau'r corff yn y dyfodol yn sgil honiadau fod rhai uwcharholwyr wedi rhoi "cyngor" i athrawon.

'Hyderus'

Dywedodd llefarydd eu bod yn cydweithio yn agos gydag ymchwiliadau yng Nghymru a Lloegr.

"Rydym am sicrhau athrawon, myfyrwyr a rheini y gallan nhw fod yn gwbl hyderus yn safonau'r cymwysterau yr ydym yn eu cynnig.

"Mae'r rheoleiddwyr yn monitro'n graff safon ein cymwysterau a'n hasesiadau."

Yn ôl yr ymchwiilad, ni fyddai athrawon ar y cwrs hyfforddi TGAU wedi cael mantais annheg oherwydd y cyngor.

Roedd y papur newydd wedi honni iddyn nhw ffilmio arholwr yn dweud wrth athrawon ba gwestiynau i'w disgwyl mewn arholiad.

Anaddas

Dywedodd y papur newydd fod athrawon yn talu £200 y dydd i fynychu seminarau gyda'r uwcharholwyr.

"Roedd yr wybodaeth a roddwyd ar gael i bob athro, nid yn unig y rhai a fynychodd y cwrs," meddai llefarydd ar ran CBAC.

A dywedodd fod iaith yr arholwyr hanes dan sylw yn anaddas.

"Dyw'r enghraifft - sef dau unigolyn allan o dros 5,000 o arholwyr sy'n gweithio i CBAC - ddim yn gyffredin o ran y math o gyrsiau hyfforddi rydym yn ei ddarparu ar gyfer athrawon yng Nghymru a Lloegr," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol