Gwynt y Môr: Ceisio barn y cyhoedd

  • Cyhoeddwyd
LoriFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r fferm wynt gynhyrchu digon o ynni yn flynyddol ar gyfer tua 400,000 o dai

Mae cwmnïau ynni yn cynnal cyfnod o ymgynghori er mwyn canfod sut mae cymunedau gogledd Cymru am wario arian a ddaw yn sgil codi fferm wynt enfawr.

Bydd tua £19 miliwn - £768,000 bob blwyddyn - ar gael pan fydd Gwynt y Môr yn cynhyrchu i'w llawn botensial erbyn 2014.

Mae'r fferm wynt yn cynnwys 160 o dyrbinau oddi ar arfordir gogledd Cymru.

Cwmnïau RWE Innogy, Stadtwerke München GmbH a Siemens(1) sy tu cefn i'r fenter.

Bydd y cyfnod ymgynghori rhwng Rhagfyr 15 a Chwefror 13.

Mae holiadur ar gael ar y we - www.gwyntymor-consultation.com.

Bydd ffurflenni hefyd yn cael eu dosbarthu mewn adeiladau cyhoeddus gan gynnwys llyfrgelloedd, neuaddau tref a chanolfannau hamdden.

Dywedodd Katy Woodington o RWE npower renewables: "Rydym am weld gymaint â phosib yn cymryd rhan er mwyn sicrhau fod yr arian yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau dros oes y prosiect, sef 25 o flynyddoedd."

Bydd yna gyfres o weithdai hefyd yn cael eu cynnal.

  • Treffynnon, tafarn Wetherspoons - Rhagfyr 15

  • Y Rhyl, Canolfan Siopa White Rose - Rhagfyr 17

  • Llandudno, Llyfrgell - Rhagfyr 20

  • Bae Colwyn, Canolfan Siopa Bayview - Ionawr 7

Fe fydd llinell ffôn arbennig (yn Gymraeg a Saesneg) ar gael ar gyfer pobl sydd am wneud cais i dderbyn holiadur.

Mae Gwynt y Môr wedi ei lleoli 13 cilometr oddi ar arfordir Gogledd Cymru ac mae'r 160 tyrbin yn cynhyrchu cyfanswm o 576 MW o ynni gwynt.

Unwaith y bydd yn gwbl weithredol mae disgwyl i'r fferm wynt gynhyrchu digon o ynni yn flynyddol ar gyfer tua 400,000 o dai.

Mae disgwyl i'r isbwerdy yn y môr gychwyn gael ei adeiladu yn 2012 a'i gwblhau erbyn 2014.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol