Luke Charteris i adael y Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Luke CharterisFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bu Luke Charteris gyda'r Dreigiau ers 2003

Bydd clo Cymru, Luke Charteris, yn gadael clwb y Dreigiau ar ddiwedd y tymor.

Clwb Perpignan o Ffrainc yw'r ffefrynnau i sicrhau llofnod y chwaraewr 28 oed, ond mae tîm o Siapan ac un o dimau'r Super 15 hefyd â diddordeb ynddo.

Dywedodd asiant Charteris y bydd y chwaraewr yn mynnu bod ei glwb newydd yn ei ryddhau ar gyfer ei holl ddyletswyddau gyda thîm Cymru.

Dywedodd Charteris ei hun: "Dyw gyrfa chwaraewr ddim yn para am byth, ac rwyf am gael cymaint o brofiadau ag y galla i."

Dyhead

Ychwanegodd yr asiant Christian Abt fod trafodaethau gyda chlybiau eraill yn gymhleth oherwydd dyhead Charteris i fod ar gael ar gyfer pob sesiwn hyfforddi a gêm ryngwladol, gan gynnwys taith y Llewod i Awstralia yn 2013.

Daw'r newyddion am ymadawiad Charteris yn yr un wythnos ag y galwodd hyfforddwr y Gleision, Gareth Baber, ar Undeb Rygbi Cymru i roi mwy arian i'r rhanbarthau er mwyn iddynt fedru dal eu gafael ar y chwaraewyr gorau.

Ni fydd Charteris yn chwarae tan fis Ebrill beth bynnag oherwydd anaf i'w arddwrn, ac ni fydd ar gael ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae'r chwaraewr 6'9" o daldra wedi targedu taith Cymru i Awstralia yn 2012 i ddilyn ychydig gemau i'r Dreigiau cyn y daith.

Ychwanegodd Charteris: "Mae bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol yn rhoi'r cyfle i rywun deithio a gweld y byd, ac rwy'n teimlo na fedra i wrthod cyfle felly.

"Mae'r cyfle i fyw mewn gwlad wahanol a mwynhau diwylliant a ffordd o fyw newydd yn rhywbeth dyw pawb ddim yn ei gael.

"Rwyf wedi dweud erioed pe bawn i'n aros yng Nghymru yna byddwn yn aros gyda'r Dreigiau. Dyma fy rhanbarth i, ac mae wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i symud ymlaen."

Pedwerydd

Os mai Perpignan fydd ei gartref newydd, Charteris fydd y pedwerydd chwaraewr o Gymru i ennill ei fara menyn yn Ffrainc.

Aeth James Hook (Perpignan), Lee Byrne (Clermont Auvergne) a Mike Phillips (Bayonne) at eu clybiau newydd yn syth wedi Cwpan Y Byd.

Ond mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi rhybuddio y gallai cael eu dewis i garfan y Chwe Gwlad fod yn anodd i rai sy'n chwarae y tu allan i Gymru.

Ni chafodd Hook, Byrne na Phillips eu rhyddhau gan eu clybiau ar gyfer y gêm ddiweddar yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm.