Dechrau'n gynt
- Cyhoeddwyd
Mae Awdurdod S4C wedi cadarnhau y bydd prif weithredwr newydd y sianel yn dechrau ei waith ar Ionawr 23.
Roedd Ian Jones yn un o'r tîm sefydlodd y sianel yn 1982 ond bellach mae'n gweithio fel un o uwch-reolwyr A+E Television Networks yn Efrog Newydd.
Roedd pryder na fyddai'n medru cymryd yr awenau tan fis Ebrill 2012 oherwydd cyfyngiadau cytundebol gyda'i gyflogwyr presennol.
Dywedodd datganiad S4C: "Mae Ian Jones yn un o uwch reolwyr mwyaf profiadol y byd teledu ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau ac mae wedi gweithio yn y diwydiant ym Mhrydain a thramor ers bron 30 mlynedd.
"Yn wreiddiol o Dreforys, mae ganddo brofiad eang ar draws darlledu, cynhyrchu, cyd-gynyrchiadau a theledu rhyngwladol.
'Ail-ymuno'
"Ar ôl gweithio yn adran adloniant rhwydwaith ITV ac fel cynhyrchydd annibynnol, ail-ymunodd ag S4C fel Cyfarwyddwr Busnes, S4C Rhyngwladol a Chyd-gynyrchiadau o 1992 i 1997.
"Ers hynny bu'n gweithio fel rheolwr a chyfarwyddwr Scottish Television, United News and Media (ITEL) a Granada International.
"Bu'n Gadeirydd Cymdeithas Dosbarthu Diwydiant Teledu Prydain (British Television Distribution Industry Association) am ddwy flynedd.
"Rhwng 2004 a 2007 roedd yn Llywydd National Geographic Television International cyn mynd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp i'r Target Entertainment Group."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011