'Diwedd cyfnod' i Wersyll Glan-llyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r swper olaf wedi ei weini mewn cegin enwog.
Ar ôl bwydo dros 500,000 o blant Cymru dros gyfnod o 62 o flynyddoedd a pharatoi 120,000 prydau o fwyd bob blwyddyn, mae'r amser wedi dod i ffarwelio â chegin wreiddiol Gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn.
Fel rhan o ddatblygiad Canolfan Ragoriaeth Eryri fe fydd y gwersyll yn cael cegin a chaban bwyta newydd.
Bydd y gegin bresennol yn cael ei throi'n dderbynfa a swyddfeydd a bydd y caban bwyta yn cael ei ehangu fel y bydd lle i 48 ychwanegol.
Symud dros dro
Y bwriad yw gwella ansawdd y gwersyll ond heb amharu ar gymeriad y rhan hon o Blas Glan-llyn.
Mae'r gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau ac mae disgwyl i'r cyfan fod yn barod erbyn mis Mawrth 2012.
Yn y cyfamser, bydd cegin a chaban bwyta Glan-llyn yn symud i'r Neuadd Chwaraeon dros dro.
Ers i'r gwersyll agor ei ddrysau yn 1950, ychydig o newidiadau sydd wedi bod yn y gegin.
Mae'r gegin wedi cynnig gwaith i ugeiniau o bobl leol dros y blynyddoedd, gyda nifer fawr o bobl ifanc lleol yn cael eu cyflogi dros benwythnosau ac yn ystod tymor yr haf.
"Mae hwn yn sicr yn ddiwedd cyfnod yng Nglan-llyn gan fod y gegin yn rhan mor allweddol o'r gwersyll," meddai Huw Antur, y cyfarwyddwr.
'Grantiau'
"Ond mae'n rhaid symud ymlaen i wella'r cyfleusterau o hyd ar gyfer y gwersyllwyr ac ar gyfer y staff.
"Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio gyda phartneriaid Canolfan Ragoriaeth Eryri i wireddu'r datblygiad ac yn ddiolchgar iawn am y grantiau sydd wedi galluogi hyn i ddigwydd."
Mae Canolfan Ragoriaeth Eryri yn cynnwys partneriaid sy'n gweithio yn y maes awyr agored a hamdden yn ardal Meirionnydd ac sydd wedi eu hariannu'n rhannol gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, yr NDA, Parc Cenedlaethol Eryri a Phartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru.