Yr economi a phroblemau thraffig yn achos pryder
- Cyhoeddwyd
Mae dirprwy faer wedi ailsefydlu Siambr Fasnach oherwydd pryder am ddyfodol siopau'r Stryd Fawr.
Dywedodd Phil Watkins fod dyfodol y Drenewydd yn edrych yn ddu oherwydd yr economi a phroblemau traffig.
Mae gyrwyr wedi wynebu tagfeydd ers tro, meddai, ond roedd y sefyllfa'n waeth ers i oleuadau gymryd lle cylchdro ger archfarchnad Tesco.
Er bod bwriad i godi ffordd osgoi, ond mae'n debyg na fydd hynny'n digwydd tan 2014.
Agor yn hwyr
Rhoddwyd y gorau i gyfarfodydd yr hen Siambr Fasnach flynyddoedd yn ôl oherwydd diffyg diddordeb.
Dywedodd Mr Watkins ei fod am i fusnesau ddangos diddordeb mewn cynlluniau fydd yn hybu masnach.
Hyd yn hyn mae 24 o fusnesau'n aelodau o'r siambr newydd ac maen nhw wedi cytuno i agor siopau yn hwyr ar ddydd Iau cyn y Nadolig.
Yn ôl y siambr, mae archfarchnadoedd y tu allan i'r dref a chystadleuaeth trefi mawr dros y ffin wedi effeithio ar y Stryd Fawr.
'Hyd at awr'
"Mae canol y dre yn lle eithaf llwm. Mae pobl yn cwyno nad oes yna bethau ar eu cyfer," meddai Mr Watkins.
"Ac mae'r traffig yn ei gwneud yn anodd i bobl ddod i'r dref. Os ydyn nhw'n o fewn 10 milltir mae'n gallu cymryd hyd at awr i gyrraedd canol y dref.
"Mae pobl yn osgoi'r lle."
Dywedodd Ian Williams, perchennog Gwesty'r Elephant and Castle fod 36 yn bresennol yng nghyfarfod diwethaf y siambr.
"Mae tagfeydd yn golygu bod pobl yn gyndyn o ddod i ganol y dref.
"Ni sy'n diodde. Mae ffordd osgoi newydd yn hanfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2011