Cerddorion yn 'streicio' ar Radio Cymru dros daliadau 'pitw'
- Cyhoeddwyd
Mae cerddorion yng Nghymru yn cynnal protest dridiau i dynnu sylw ar yr hyn maen nhw'n ei alw'n daliadau "pitw" gan y BBC i ddefnyddio eu cerddoriaeth ar Radio Cymru.
Fe gododd y problemau wedi i'r PRS (Performing Rights Society) newid y fformiwla sy'n cael ei defnyddio i dalu am gerddoriaeth sy'n cael ei darlledu yng Nghymru.
Dywedodd BBC Radio Cymru eu bod yn gwneud popeth posib i geisio datrys yr anghydfod.
Meddai Deian ap Rhisiart o Gynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru:
"Yn anffodus nid yw'r trafodaethau rhwng y BBC a'r Gynghrair, yn ystod yr wythnos diwethaf wedi llwyddo i arwain at ohirio'r streic.
"Nid yw'r Gynghrair yn teimlo fod y BBC yn ganolog wedi cydnabod eu cyfrifoldeb yn y broses o rannu breindaliadau yn ddigonol.
"Mae trafod yr egwyddor mai gwerth economaidd cân Gymraeg ddylai sail dosbarthiadau 'y funud' ar Radio Cymru fod, ac nid 'cyrhaeddiad a threuliad' yn sylfaenol i'r ymgyrch, ac nid yw'r BBC na'r PRS wedi cadarnhau eu bod yn barod i wneud hyn."
Cynhaliodd y cerddorion streic debyg ar Fawrth 1, ond y tro hwn bydd y brotest yn para tridiau ac mae'r gynghrair yn bwriadu targedu ymddiriedolwyr y BBC.
"Hoffwn gadarnhau nad ymgyrch yn erbyn Radio Cymru a'i staff yw hyn, ond ymgyrch yn erbyn y BBC yn ganolog," ychwanegodd Mr ap Rhisiart.
'Taliadau teg'
Dywed y PRS fod cerddorion, o dan y drefn bresennol, yn cael 59 ceiniog y funud pan fo eu cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar Radio Cymru. Mae hyn o'i gymharu ag 89 ceiniog o dan y system flaenorol.
Mae cerddorion wedi disgrifio'r swm sy'n cael ei dalu erbyn hyn yn "bitw".
"Rydym yn mynnu bod y system yma'n cael ei newid, fel bod cyfansoddwyr yng Nghymru'n cael taliadau teg am ddarlledu eu gwaith," meddai Mr ap Rhisiart.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran BBC Radio Cymru eu bod y brotest yn "siomedig...ar ôl dyddiau lawer o drafod, a chynnig oedd yn cyflawni mwyafrif helaeth gofynion y cerddorion".
"Y PRS sy'n gosod lefelau'r taliadau breindal. Ond mae BBC Cymru a'r BBC yn ganolog wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio datrys yr anghydfod. Rydym wedi llwyddo i roi proses ac amserlen bendant mewn lle er mwyn ceisio trafod a datrys y ddadl yma cyn diwedd Chwefror."
Dywedodd yr orsaf y byddan nhw'n addasu'r rhaglen gerddoriaeth ar gyfer ddydd Llun, gan geisio parchu dymuniadau'r cerddorion, ond na ellid cynnal y sefyllfa am dridiau.
"Nid streic swyddogol yw hon, ac mae'r gerddoriaeth wedi ei drwyddedu i'r BBC drwy'r PRS, felly yn gyfreithiol nid oes rhwystr i Radio Cymru rhag chwarae'r gerddoriaeth," meddai'r datganiad.
Meddai Sian Gwynedd, golygydd Radio Cymru: "Rydym fel gorsaf yn gefnogwyr pybyr i gerddorion Cymraeg ac yn ymhyfrydu yn y bartneriaeth greadigol sydd ganddo ni gyda cherddorion yng Nghymru.
"Mae'r berthynas glòs yma wedi ein galluogi i glywed cerddoriaeth newydd a gwrando ar berfformiadau byw yn rheolaidd ar yr orsaf.
"Rydym yn siomedig iawn na chafwyd cytundeb y tro yma ond hyderwn na fydd hyn yn amharu ar unrhyw drafodaethau yn y dyfodol."
'Taliad penodol'
Yn ôl Mark Lawrence, cyfarwyddwr aelodaeth y PRS, mae'r taliadau am chwarae caneuon ar y radio'n cael eu hadolygu'n rheolaidd "ar sail cynulleidfa, cyrhaeddiad a gwaith samplo ein timau".
"Cafodd taliad penodol ar gyfer chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn gyhoeddus ei gyflwyno yn 2010 ond mae'n wir bod dadansoddiad mwy manwl wedi arwain at daliadau llai yn gyffredinol i nifer o aelodau o Gymru."
Mae cyfarfod wedi cael ei drefnu ar gyfer y flwyddyn newydd.
Yn y cyfamser, mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams, wedi galw ar y PRS i ailystyried eu system daliadau i gerddorion Cymreig.
"Mae Radio Cymru yn orsaf genedlaethol a'r prif allbwn ar gyfer cerddorion Cymraeg ond dyw fformiwla'r PRS ddim yn cydnabod hyn.
"Dyw'r raddfa ddim yn adlewyrchu eu cyfraniad diwylliannol ac ieithyddol ac mae'n fygythiad gwirioneddol i'w bywoliaeth."
Wrth alw am ddatganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru, dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bethan Williams:
"Mae'r ffaith fod Cymru yn cael ei hystyried yn rhanbarth o fewn y diwydiant darlledu yn codi problemau o hyd a byddai datganoli rheolaeth dros ddarlledu i Gymru yn golygu fod Cymru yn cael ei chymryd o ddifrif."
"Dylai'r BBC gefnogi a hybu cerddoriaeth Gymraeg. Gan fod y BBC yn talu cerddorion drwy'r PRS, mae cerddorion Cymraeg yn derbyn hyd at 35 gwaith yn llai o arian na cherddorion Saesneg, mae hynny'n warth. Yn fwy na hynny mae'n ei gwneud yn anodd iawn i wneud bywoliaeth o ganu yn Gymraeg sydd yn golygu bod llai o gerddoriaeth Gymraeg ar gael i wrandawyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2011