Canfod tarddiad cerrig Côr y Cewri

  • Cyhoeddwyd
Côr y CewriFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Bydd archeolegwyr yn ceisio canfod sut gafodd y cerrig gleision eu symud i Gôr y Cewri.

Mae arbenigwyr wedi cadarnhau am y tro cyntaf fod rhai o'r creigiau yng Nghôr y Cewri wedi dod o Sir Benfro.

Credir ers amser mai Mynyddoedd y Preseli yw tarddiad y cerrig gleision gafodd eu defnyddio er mwyn codi rhan gyntaf y côr yn 2300 CC.

Yn awr mae ymchwil gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Caerlŷr wedi canfod tarddiad y cerrig o fewn 70 metr (230 troedfedd) i Graig Rhos-y-felin ger Pont Saeson.

Dywedodd Dr Richard Bevins o'r amgueddfa y byddai'r darganfyddiad yn helpu arbenigwyr i ganfod sut gafodd y cerrig eu symud.

Cerrig rhyolitig

Casglodd Dr Bevins a Dr Rob Ixer o Brifysgol Caerlŷr samplau o gerrig yn Sir Benfro dros gyfnod o naw mis mewn ymgais i ganfod tarddiad cerrig naddion rhyolit sydd 150 milltir i ffwrdd yng Nghôr y Cewri.

Gan astudio cynnwys mwynol y cerrig a pherthynas gweadeddol y tu mewn i'r garreg fe ganfu'r archeolegwyr fod 99% o'r samplau yng Nghôr y Cewri yn cydweddu â'r cerrig yng Nghraig-y-felin.

Dywed yr archeolegwyr fod y cerrig rhyolitig yng Nghraig-y-felin yn wahanol i bob carreg arall yn Ne Cymru a bod y ffaith hon yn helpu lleoli bron bob un o gerrig rhyolit Côr y Cewri i ardal o rai cannoedd o fetrau sgwâr yn sir Benfro.

Ond mae gwahaniaethau eraill rhwng y cerrig yn yr ardal hon wedi galluogi Dr Bevins a Dr Ixer i leoli tarddiad y cerrig yng Nghôr y Cewri i un rhan yng ngogledd ddwyrain Rhos-y-felin.

Dywedodd Dr Ixer fod y darganfyddiad o darddiad y cerrig yn un "annisgwyl a chyffrous".

Cerrig gleision

"Mae'n anhygoel ein bod ni wedi gallu lleoli tarddiad carreg archeolegol arwyddocaol fel hyn mor gywir," ychwanegodd.

"Gyda dyfal barhad rydyn ni'n benderfynol i ddarganfod tarddiad y rhan helaeth os nad holl gerrig gleision Côr y Cewri fydd yn galluogi archeolegwyr i barhau â'u dyfaliadau."

Bydd archeolegwyr yn awr yn cynnal ymchwil i geisio canfod sut gafodd y cerrig gleision eu symud o Sir Benfro i Gôr y Cewri.

"Mae llawer o bobl wedi gofyn y cwestiwn hwn dros y blynyddoedd," meddai Dr Bevins.

"Cafodd y cerrig eu cludo i Gôr y Cewri gan drafnidiaeth ddynol neu gan drafnidiaeth dros rew?

"Diolch i ymchwil daearegol rydyn ni wedi canfod tarddiad y cerrig rhyolit ac mae hyn yn gyfle i archeolegwyr ganfod ateb i'r cwestiynau hyn."

Ychwanegodd Dr Bevins fod gwaith ymchwil i ganfod tarddiad pedair carreg yng Nghôr y Cewri nad ydynt yn deillio o Rhos-y-felin.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol