Coleg Menai i gydweithio â'r Urdd

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Evans ac Aled SiônFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y bartneriaeth rhwng yr Urdd a'r Coleg i'w gweld ar Faes Prifwyl yr Ieuenctid

Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cyhoeddi manylion un o brif bartneriaid yr ŵyl, sef Coleg Menai, sydd i'w chynnal yn Eryri yn ddiweddarach eleni.

Bydd Coleg Menai a'r Eisteddfod yn cydweithio i greu gweithgareddau Celf, Dylunio a Thechnoleg ar Faes yr Eisteddfod a gynhelir ar safle Coleg Glynllifon, nepell o Gaernarfon rhwng 4 a'r 9 o Fehefin.

Bydd y bartneriaeth rhwng yr Urdd a'r Coleg i'w gweld ar Faes Prifwyl yr Ieuenctid ar ffurf y pafiliwn Celf, Dylunio a Thechnoleg.

Mae'r pafiliwn yn atyniad poblogaidd ar y Maes ac eleni bydd gweithgareddau o bob math - ffrwyth gweithgor o wirfoddolwyr lleol yr Urdd a staff a myfyrwyr Coleg Menai.

'nawdd i'r pafiliwn'

"Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r bartneriaeth rhwng Coleg Menai a'r Urdd heddiw," medd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

"Mae'r pafiliwn Celf, Dylunio a Thechnoleg yn un o atyniadau mwyaf Eisteddfod yr Urdd ac mae'n diolch ni'n fawr i Goleg Menai am eu nawdd i'r pafiliwn ac am yr arweiniad gyda'r arddangosfa a'r gweithgareddau arfaethedig yn y pafiliwn."

Thema y cystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg yw Symud, Cyffro neu Dathlu ac mae'r cystadlaethau yn rhan o weithgaredd Grym y Fflam a ariennir gan Legacy Trust UK, sy'n dathlu'r Olympiad Diwylliannol yng Nghymru a chreu treftadaeth o Gemau Olympaidd a Pharaolympaidd Llundain 2012.

Dywedodd Dafydd Evans, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Menai: "Mae'r bartneriaeth rhwng Eisteddfod yr Urdd a Choleg Menai yn adeiladu ar arloesedd y Coleg yn y maes Celf a Dylunio a'r cyrsiau amrywiol a niferus sydd gennym yn y maes.

"Mae'n arferiad gennym bellach i gynnal arddangosfa Celf a Dylunio bob mis Mehefin yn y Coleg ac mae'r myfyrwyr yn meithrin sgiliau gosod ac arddangos.

"Ein gobaith yw y bydd nifer o'r myfyrwyr yma'n gallu rhoi'r sgiliau hynny ar waith drwy gydweithio efo'r Urdd i greu arddangosfa heb ei hail yn Eryri eleni fydd yn ffenestr siop, nid yn unig i'r cannoedd o blant a phobl ifanc fydd wedi cyflawni gwaith o'r safon uchaf ond hefyd i fyfyrwyr talentog Coleg Menai."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol