Iechyd: Newidiadau i wasanaethau ysbytai cymunedol

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Gwynedd, BangorFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yna welyau ychwanegol mewn rhai ysbytai

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi newidiadau sylweddol i'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn rhai o ysbytai cymunedol yr ardal.

Bydd tair uned man-ddamweiniau yn cau dros dro ac mi fydd yna gwtogi oriau unedau eraill, yn ogystal â chau ward gyfan yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli.

Dywed y Bwrdd y bydd mwy o welyau yn cael eu darparu yn ysbytai mwya'r gogledd.

Cynnydd yn y galw am ofal dros y gaeaf a'r sefyllfa ariannol sydd wrth wraidd y newidiadau a fydd yn para tan ddiwedd mis Mawrth.

Dywed Cymdeithas Clefion y Deyrnas Unedig fod yna dorri nôl ar wasanaethau led led Prydain

Yn ôl y Bwrdd Iechyd dyw gwasanaethau fel unedau man-anafiadau ddim yn wynebu'r un pwysau â'r hyn sy'n wynebu ysbytai mawrion.

Mae modd symud nyrsys i'r ysbytai mawrion, medd y Bwrdd.

Mwy o alw am wasanaethau

Dywed datganiad gan y Bwrdd: "Roedd yn rhaid i ni atgyfnerthu ein gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio yn effeithiol.

"Daw hyn ohewydd bod disgwyl cynnydd yn y galw am wasanaethau yn ystod misoedd yn y gaeaf - tra bod yna broblemau gyda salwch staff a recriwtio yn ogystal a'r sefyllfa ariannol.

Ychwnaegodd y datganiad fod yn rhaid i'r Bwrdd gadw o fewn ffiniau ariannol wrth sicrhau bod gwasanaethau yn ddiogel.

Dywedodd Dr Olwen Williams, pennaeth staff y Bwrdd Iechyd, y bydd un ward yn cau yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli.

"Trefniant dros dro yw cau'r ward o 15 gwely.

"Rydym wedi cael trafferth denu cleifion o ardaloedd cyfagos, dyw rhai pobl ddim am deithio."

Dywedodd fod yr Ymddiriedolaeth yn wynebu pwysau ariannol ond mai'r flaenoriaeth yw diogelwch y cleifion ac mai bach iawn o effaith y bydd cleifion yn ei wynebu.

Daw'r newyddion am y newidiaau yn y gogledd wedi i Fwrdd Iechyd arall yng Nghymru ystyried newidiadau i unedau gofal ddwys yn y gorllewn a'r canolbarth.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn adolygu eu gwasanaethau gan gynnwys adrannau ddamweiniau Ysbyty'r Tywysog Philip, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Fe fyddai adran ddamweiniau Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, yn cael ei hisraddio i "ganolfan gofal brys" o dan bob un o opsiynau sy'n cael eu hystyried gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Dywed y Bwrdd nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ac fe fyddan nhw'n ymgynghori'n eang.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol