Pennaeth Iechyd yn dweud bod angen diwygio'r gwasanaeth

  • Cyhoeddwyd
David SisslingFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd David Sissling fel prif weithredwr GIG Cymru ym mis Mehefin

Mae pennaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn dweud y gallai diogelwch cleifion gael ei beryglu os na fydd diwygiadau i ysbytai yn digwydd.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers cael ei benodi'n brif weithredwr ym mis Mehefin, dywedodd David Sissling y byddai'r diwygiadau hefyd yn ystyried pwysau ariannol.

Ond mynnodd mai diogelwch yw'r brif ystyriaeth.

Yn y flwyddyn newydd mae disgwyl i holl fyrddau iechyd Cymru gyhoeddi cynlluniau i newid gwasanaethau ysbytai, ac mewn rhai achosion canoli gwasanaethau a chau wardiau.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda eisoes wedi cyflwyno cynigion sy'n pwysleisio bod rhai gwasanaethau eisoes yn "fregus iawn" a'u bod yn gorfod taenu'r adnoddau prin yn denau.

Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr newidiadau sylweddol i'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn rhai o ysbytai cymunedol yr ardal hefyd.

Gwrthwynebiad

"Rwy'n credu bod ein gwasanaethau yn ddiogel ar hyn o bryd ond maen nhw o dan bwysau," meddai Mr Sissling.

"Os na wnawn ni rhywbeth, gallai sefyllfa ymhen dwy, tair neu bedair blynedd fod yn un y byddwn yn difaru.

"Rydym am sicrhau ein bod yn gwneud y newidiadau yng ngoleuni diogelwch a gwelliannau diogelwch."

Daeth ymgais i symud a chanoli gofal yn 2006 i stop yn wyneb gwrthwynebiad y cyhoedd gyda nifer o grwpiau'n cael eu sefydlu i amddiffyn ysbytai lleol yn erbyn cau.

Israddio

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod yr angen am newid bellach yn fwy enbyd.

"Gallai diogelwch gael ei fygwth," honnodd Mr Sissling.

"Dyna pam mae'n rhaid i'r byrddau iechyd fynd i'r drafferth o gyflwyno'r pwysau i'r boblogaeth leol."

Yn gynharach yr wythnos yma fe wnaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda gyflwyno cynlluniau i newid gwasanaethau brys, gofal canser a gofal mamolaeth ar draws y pedwar prif ysbyty.

Un o'r dewisiadau oedd israddio'r uned argyfwng yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, i uned gofal brys - rhywbeth o gododd wrychyn grŵp ymgyrchu lleol.

Diffuant

Mae Mr Sissling yn derbyn fod pryderon am ddiogelwch yn ddiffuant, ond yn pwysleisio bod rhaid ystyried materion ariannol hefyd.

"I ryw raddau mae arian yn rhywbeth yr ydym yn ystyried," meddai.

"Ond rhaid i mi ddweud bod y newidiadau i'r gwasanaeth yn bennaf yn cael eu rheoli gan faterion safon a diogelwch."

Mae disgwyl cyhoeddi cynlluniau i newid gwasanaethau yng ngogledd Cymru yn y flwyddyn newydd, ac yn y de-ddwyrain fe allai cleifion orfod teithio o ardaloedd Gwent a'r cymoedd i Gaerdydd am driniaeth arbenigol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol