Dwyn metel: Eglwysi'n cyfri'r gost
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y lladradu o fetel o eglwysi yng Nghymru wedi cynyddu bum gwaith cymaint dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn ôl cwmni Ecclesiastical Insurance, roedd llai na 10 achos o ddwyn metel yng Nghymru yn 2009, ond eisoes eleni mae 50 achos wedi bod.
Dywed y cwmni yswiriant bod ceisiadau gan eglwysi yng Nghymru dros y pum mlynedd ddiwethaf yn cyrraed cyfanswm o bron £400,000.
Dywedodd Arddeacon Meirionydd, Andrew Jones, fod y broblem yn un enfawr.
Roedd 30 o geisiadau yswiriant oherwydd dwyn metel gan eglwysi yng Nghymru yn 2007, a 50 yn 2008.
Disgynnodd y rhif i lai na 10 yn 2009 wrth i brisiau metel drwy'r byd ostwng, ond wrth i'r pris godi'n ddramatig y flwyddyn ganlynol fe wnaeth nifer y lladradau yr un modd.
Un o'r ceisiadau mwyaf oedd am bron £53,000 wedi i fetel gael ie ddwyn o Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr ym Mhenmynydd, Sir y Fflint, yn 2007.
Dywedodd Mr Jones: "Yng Nghymru mae tua 125 o eglwysi wedi cael eu targedu a bron £400,000 wedi cael ei hawlio a'i golli."
Dywedodd fod y lladradau hefyd yn achosi difrod, gan ychwanegu: "Roedd achos yn ddiweddar o rhywun yn dwyn dargludydd mellt ac fe ddaeth chwarter y twr i lawr gyda nhw ar yr un pryd.
"Felly wrth ddwyn un peth, fe gafodd efaith ar yr adeilad."
Ychwanegodd: "Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf yw i gadw golwg gan y gymuned - gwneud yn siwr os fyddwch chi'n pasio eglwys i gadw llygad arni yn enwedig y bobl sy'n byw yn agos at eglwys.
"Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau nad ydym yn ei gwneud hi'n hawdd i'r rhai sy'n dwyn metel."
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Ecclesiastical Insurance: "Mae nifer y ceisiadau yswiriant yn cyfateb yn gryf i bris metel yn y marchnadoedd drwy'r byd.
"Yn 2009 fe ddisgynnodd y pris - felly hefyd y galw am fetel ac felly nifer y ceisiadau yswiriant.
"Mae'n batrwm yr ydym yn ei weld drwy'r wlad.
"Y llynedd fe gododd y pris eto."
Ym mis Awst cafodd gwerth tua £10,000 o blwm ei ddwyn o do Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn Sir Ddinbych - yr ail ladrad yno mewn tair blynedd.
Dywedodd y Canon Michael Balkwill ei fod yn esiampl drist arall o sut yr oedd rhai yn fodlon rhoi mantias personol o flaen parch at eraill a'u heiddo.