'Newid cymdeithas' yw dyletswydd yr eglwys

  • Cyhoeddwyd
Archesgob Cymru, Dr Barry MorganFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Barry Morgan na allai'r eglwys gadw'r byd y tu allan "bellter parchus" i ffwrdd

Dywedodd Archesgob Cymru y dylai'r eglwys geisio newid cymdeithas er mwyn "gwyrdroi tlodi, anghyfiawnder a gorthrwm".

Yn ei neges Nadolig, dywedodd Dr Barry Morgan na ddylai crefydd ymbellhau o ddigwyddiadau'r byd ehangach.

Mynnodd fod awdurdodau Eglwys Gadeiriol St Paul's yn Llundain wedi rhoi'r argraff yma gyda'r penderfyniad gwreiddiol i gau ei drysau i brotestwyr economaidd.

Dywedodd Dr Morgan fod yr Iesu yn teimlo fod trugaredd yn bwysicach na phurdeb.

'Argraff anffodus'

"Maen nhw'n protestio, ymhlith pethau eraill, ac anghyfiawnder economaidd a'r effaith y mae hynny'n ei gael ar aelodau tlotaf ein cymdeithas," meddai.

"Ymateb cyntaf St Paul's oedd cau ei drysau a bygwth gweithredu cyfreithiol.

"Yn ddiweddarach fe newidiodd yr awdurdodau eu meddyliau, agor y drysau a chroesawu'r protestwyr i mewn.

"Ond drwy ymateb fel y gwnaethon nhw yn y dechrau fe roddwyd yr argraff anffodus fod gan yr hyn oedd yn digwydd y tu mewn i'r gadeirlan ychydig iawn i wneud a'r hyn oedd yn digwydd y tu allan.

"Gallai pobl fod wedi dod i'r casgliad fod gan addoli Duw ddim cysylltiad gyda'r byd y tu allan na'i phryderon gan fod Duw yn llythrennol ac yn drosiadol uwchlaw hynny."

'Mwy radical'

Pwysleisiodd fod yr Iesu ei hun wedi chwalu'r ddelwedd yna o sancteiddrwydd Duw.

Ychwanegodd: "Treuliodd y rhan fwyaf o'i weinidogaeth allan ar y stryd, nid mewn synagogau na themlau ond yn pregethu i bobl gyffredin, yn ceisio cysylltu digwyddiadau bob dydd i Dduw.

"Nid mater o newid ein bywydau ein hunain i gyflawni ewyllys Duw - rhyw fath o foesoldeb personol - yw hyn.

"Mae'n fwy radical na hynny - mae'n golygu ceisio newid strwythur ein cymdeithas a'r byd, gwyrdroi tlodi, anghyfiawnder a gorthrwm.

"Yn rhyfedd iawn y mudiad Occupy sydd wedi ein hatgoffa fod yr Iesu - drwy gael ei eni mewn stabl a'i farwolaeth ar y groes - wedi chwalu'r ddelwedd o Dduw fel Duw sanctaidd ac ar wahân am byth."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol