Ceir cebl i hybu twristiaeth i bentre Cefn Mawr
- Cyhoeddwyd
Mae system ceir cebl gwerth £3 miliwn yn rhan o gynlluniau i gynyddu twristiaeth yn un o bentrefi Wrecsam.
Mae disgwyl i gynlluniau gael eu cyflwyno gan Grŵp Camlas Plas Kynaston sydd am adfer y gamlas ar gyfer ymwelwyr.
Maen nhw hefyd am adeiladu canolfan i ymwelwyr, llwybr a'r system ceir cebl i gludo pobl i bentre' Cefn Mawr.
Dywed y grŵp fod yr ardal angen ymwelwyr er mwyn disodli'r diwydiannau a gollwyd.
Yn ôl y grŵp mae Cefn Mawr wedi diodde' yn ystod y blynyddoedd diweddar o ganlyniad i golli swyddi.
Collodd tua 200 o bobl eu swyddi yn Air Products gerllaw yn Acrefair yn 2009 ac mae nifer y gweithlu yn hen ffatri gemegau Flexsys yng Nghefn Mawr wedi lleihau.
Roedd y gamlas yn arfer gwasanaethu diwydiannau lleol ond cafodd ei llenwi yn 2005.
Miloedd
Mae'r grŵp yn honni y gall gael ei adfer gan gysylltu Cefn Mawr gyda'r gwasanaeth camlesi fel atyniad poblogaidd Pontcysyllte.
Mae'r gamlas a'r bont ddŵr honno yn atyniad sy'n dennu tua 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn atyniad a dderbyniodd statws Treftadaeth y Byd gan Unesco.
Dywed y grŵp eu bod yn ystyried cael lle ar gyfer 60 angor yng Nghefn Mawr ac mae'r rhan gyntaf o'r cynlluniau yn cynnwys canolfan ymwelwyr.
Rhan o gynllun diweddarach yw'r system ceir cebl a fydd yn cludo pobl o'r ganolfan ymwelwyr i Gefn Mawr.
Dywedodd David Taylor, cadeirydd y grŵp, fod y diwydiannau wedi mynd ers i Air Products a Flexsys fynd.
"Mae'r swyddi a'r gwaith lleol wedi mynd.
"Mae angen meddwl am ffyrdd eraill o ddod ag economi i'r ardal.
"Y ffordd orau yw dod a'r gamlas yn ôl.
"Gyda'r gamlas a'r marina, gosod system ceir cebl, fe fydd ymwelwyr yn gallu dod yma i'r pentref yn syth o'r maes parcio (ar hen safle Flexsys)."
Eglurodd Mr Taylor mai busnesau lleol sydd wedi dod at ei gilydd i sefydlu'r grŵp a'u bod mewn trafodaethau gyd phartneriaid posib.
Mae ganddyn nhw hefyd "nifer o syniadau" ynglŷn ag ariannu'r fenter.
Dywedodd Dave Metcalfe, trefnydd yr ymgyrch, fod y grŵp yn bwriadu gwneud cais cynllunio ym mis Ionawr ond eu bod yn awyddus i glywed barn y cyhoedd.
"Fydd y ceir cebl ddim yn digwydd tan y bydd y rhan gyntaf wedi ei gwblhau, sef y ganolfan ymwelwyr a'r llwybr cerdded," meddai.
"Rydym yn ymwybodol bod 'na ddigon o fusnes yn yr ardal ac unwaith y cawn y bobl y gallwn symud ymlaen gyda'r rhan nesaf."
Ychwanegodd eu bod yn ymgynghori gyda Cyngor Wrecsam ac atyniad yn ardal y Peak District, The Heights of Abraham, sy'n cynnal ceir cebl.