Pryder lleol am gau ward yn Ysbyty Bryn Beryl

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Bryn BerylFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bwrdd iechyd am i'r newidiadau ddod i rym ar ar Ionawr 2

Fe wnaeth tua 500 o bobl fynychu cyfarfod ym Mhwllheli i drafod bwriad bwrdd iechyd i gau ward, am gyfnod dros dro, yn Ysbyty Bryn Beryl.

Cafodd y cyfarfod ei drefnu gan gynghor y dref.

Yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddai ward yn cau dros dro a 15 gwely yn diflannu.

Fe fydd hyn yn dod i rym yr wythnos nesaf.

Mae'r newidiadau yn yr ysbyty lleol yn rhan o gynlluniau y bwrdd iechyd yn y gogledd.

Eu bwriad yw creu newidiadau sylweddol i'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn rhai o'r ysbytai cymunedol a sicrhau y bydd mwy o welyau yn cael eu darparu yn ysbytai mwya'r gogledd.

'Gweithio'n effeithiol'

Bydd tair uned mân ddamweiniau yn cau dros dro ac mi fydd yna gwtogi ar oriau unedau eraill yn ogystal â chau ward Llŷn yn Ysbyty Bryn Beryl a hynny o Ionawr 2 ymlaen.

"Roedd yn rhaid i ni atgyfnerthu ein gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio yn effeithiol," meddai llefarydd ar ran y bwrdd.

"Daw hyn oherwydd bod disgwyl cynnydd yn y galw am wasanaethau yn ystod misoedd yn y gaeaf - tra bod yna broblemau gyda salwch staff a recriwtio yn ogystal â'r sefyllfa ariannol."

Ond yn ôl Maer Pwllheli, y Cynghorydd Mike Parry, mae cau ward gyfan yn Ysbyty Bryn Beryl yn "fater pwysig a phryderus i'r ardal gyfan".

Fe fydd y gwelyau o Fryn Beryl yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Bydd yr uned fân ddamweiniau yn Ysbyty Bryn Beryl ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener dim ond o 9am i 5pm o dan y drefn newydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol