Deorfa a sw yn rhan o gynllun marina Abergwaun

  • Cyhoeddwyd
AbergwaubFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bydd y datblygiad yn costio mwy na £100m.

Gall deorfa gimwch, amgueddfa forwrol a sw'r môr fod yn rhan o farina ac angorfa ar gyfer 450 o gychod yn Abergwaun.

Os bydd y cynllun yn cael ei gymeradwyo gall sinema, ysbyty ar gyfer morloi a cherflun yn debyg i Angel y Gogledd ger Gateshead gael eu codi.

Cwmni Conygar a'r cwmni fferi Stena Line sydd wedi cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir Penfro i ddatblygu'r marina.

Y gred yw bydd y datblygiad yn costio mwy na £100m.

'Bad achub'

Dywedodd maer Abergwaun, Richard Davies fod "wir angen" y datblygiad.

Bydd cais cynllunio amlinellol i godi'r marina yn cael ei ystyried gan y cyngor ym mis Ionawr ond mae manylion y cynllun eisoes yn cael eu trafod rhwng a chwmnïau a phobl leol.

Dywedodd Mr Davies, sydd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau mai'r gobaith oedd y byddai'r marina yn gartref i ddeorfa gimwch.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant ysgol wedi ymuno yn y gwaith i adfer Y Charterhouse

Ychwanegodd Mr Davies fod cwmni Conygar ag ef yn trafod y posibilrwydd o greu adeilad i arddangos bad achub moduraidd cyntaf Abergwaun - Y Charterhouse - a gafodd ei werthu ym 1931 ond dychwelodd i'r dref yn 2009 wedi iddo gael ei ganfod gan ymgyrchwyr lleol.

Mae plant ysgol wedi ymuno yn y gwaith i adfer y cwch.

"Rhan o'r cynllun i ddatblygu'r marina yw creu adeilad fydd yn gartref i'r bad achub," meddai Mr Davies.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr adeilad hwn yn rhan o amgueddfa forwrol ar gyfer y dref."

Cerflun

Ychwanegodd y byddai'r cynllun yn adfer tref sydd, yn ôl Mr Davies, yn "marw ar ei thraed".

"Gallai'r ddeorfa gimwch, y sw môr a'r ysbyty ar gyfer morloi fod yn ganolfan y gallai plant ysgol ac ymwelwyr ymweld," meddai.

"Fe fydden ni'n darparu atyniadau fyddai'n wahanol i atyniadau eraill fel Oakwood yn Sir Benfro.

Dywedodd Mr Davies fod sinema, bwyty a siopau yn rhan o'r cynllun gan ychwanegu ei fod yn obeithiol y byddai cerflun yn debyg i Angel y Gogledd yn cael ei godi.

"Mae rhai pobl y dref wedi gwrthwynebu rhan o'r cynllun, yn bennaf oherwydd bod pobl leol yn poeni y byddan nhw'n colli'r llithrfa ar gyfer eu cychod yn y porthladd," ychwanegodd.

"Ond rwyf wedi cael addewid ysgrifenedig gan Conygar y bydd llithrfa yn rhan o'r cynllun ac y bydd y cyfleuster hwn yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys maes parcio."

Mae Ystâd y Goron, sy'n berchen ar wely'r môr ar arfordir Abergwaun, a Chyngor Sir Penfro, sy'n berchen ar lawer o'r porthladd, wedi croesawu'r cynllun.

Dywedodd llefarydd ar ran Conygar: "Mae Conygar yn awyddus i sicrhau y bydd datblygiad y marina yn llwyddiant gan greu cyfleoedd busnes fydd yn creu swyddi a denu pobl i'r safle."