Bayonne yn rhyddhau Mike Phillips i ymuno â charfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Mike PhillipsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Phillips wedi chwarae 60 o weithiau dros Gymru

Mae Mike Phillips wedi cael caniatâd gan ei glwb i ymuno â charfan Cymru yng Ngwlad Pwyl cyn dechrau pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd Bayonne yn rhyddhau'r mewnwr am dri diwrnod yn ystod ymweliad carfan Cymru â siambrau rhewi Spala o Ionawr 22 ar gyfer eu hyfforddiant.

Ond bydd rhaid i Phillips ddychwelyd i Ffrainc erbyn gêm Bayonne yn erbyn Toulon ar Ionawr 25 neu Ionawr 26.

Dywedodd llefarydd ar ran Bayonne, Nicolas Bridoux, nad oedd gan y clwb broblem gadael i Phillips ymuno â charfan Cymru yng Ngwlad Pwyl.

"Ond rydyn ni am iddo chwarae yn erbyn Toulon ar Ionawr 26 neu Ionawr 27."

Y gred yw bod tîm rheoli Cymru wedi bod yn ceisio sicrhau y bydd James Hook (Perpignan) a Lee Byrne (Clermont Auvergne) hefyd yn cael eu rhyddhau gan eu clybiau.

Cytundeb

Y disgwyl yw i reolwyr Perpignan drafod y mater ddydd Iau.

Mae gan hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, gytundeb â phedwar rhanbarth rygbi Cymru bod chwaraewyr yn ymuno â charfan Cymru 13 diwrnod cyn gêm ryngwladol.

Bydd carfan Cymru yn treulio amser mewn tymheredd 120 gradd o dan y rhewbwynt wrth baratoi.

Treuliodd carfan Cymru amser yn hyfforddi o dan yr un amgylchiadau cyn pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd.

Yn ôl yr arbenigwyr, roedd y driniaeth yn eu helpu i wneud mwy o waith hyfforddi ac yn cyflymu'r broses wrth wella o anafiadau ac i roi hwb naturiol i'r corff.

Fe fydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon, yn Nulyn ar Chwefror 5.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol