Cynfilwyr: 'Codi ymwybyddiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Y Sarjant Dan Collins yn 2010Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr Is-Sarjant Dan Collins o'r Gwarchodlu Cymreig ei ddarganfod yn farw Ddydd Calan

Mae gwleidyddion wedi addo codi ymwybyddiaeth am anhwylder straen ôl-drawmatig ar ôl i filwr gael ei ddarganfod wedi ei grogi mewn chwarel yn Sir Benfro Ddydd Calan.

Y gred yw bod yr Is-Sarjant Dan Collins, 29 oed o Tiers Cross ger Hwlffordd ac aelod o'r Gwarchodlu Cymreig, yn cael hunllefau rheolaidd ac yn dihuno'n sgrechen yn y nos.

Mae ei gariad wedi dweud ei fod wedi dioddef yn ofnadwy o anhwylder straen ôl-drawmatig.

Cafodd cwest i'w farwolaeth ei agor a'i ohirio ddydd Mercher.

'Argraff fawr'

Mae'r Aelod Seneddol, Paul Flynn, wedi dweud ei fod wedi siarad â chyn-filwr oedd yn gwybod am chwe milwr oedd wedi cyflawni hunanladdiad.

Ei fwriad e a'r Aelod Cynulliad, Darren Millar, am wella'r help ar gael i gyn-filwyr.

Dywedodd Mr Flynn, AS Llafur Gorllewin Casnewydd, fod achos Mr Collins wedi creu "argraff fawr" arno ac y byddai'n ceisio codi ymwybyddiaeth am yr angen i helpu cynfilwyr.

"Rhaid inni sicrhau eu bod yn cael y driniaeth orau bosib," meddai.

Wrth gyfeirio at achos Mr Collins, dywedodd Mr Flynn: "Allwch chi ddeall bod hyn yn un o'r hunllefau gwaetha y gall unrhywun ei ddiodde.

"Gallwch chi ddychmygu rhywun yn dihuno a sgrechen yng nghanol y nos."

Yn ôl Vicky Roach, fu mewn perthynas â'r milwr ers dwy flynedd, roedd wedi ceisio lladd ei hun o'r blaen.

Dywedodd llefarydd iechyd Y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, ei fod wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y driniaeth ar gael i gynfilwyr.

'Cydlynu'

Ym mis Chwefror y llynedd cyhoeddodd Pwyllgor Iechyd y Cynulliad adroddiad yn galw am gydlynu cofnodion iechyd a chofnodion milwrol yn well.

Dywedodd Mr Millar: "Triniaethau traddodiadol oedd ar gael yn benna ac nid oedden nhw'n benodol ar gyfer cynfilwyr.

"Roedd tuedd i'r gwasanaethau yng Nghymru fod ar gael drwy'r gwasanaethau iechyd meddwl cyffredinol ond, wrth gwrs, gall y gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr sydd wedi bod yn ymladd fod yn eitha penodol.

"Mae nifer o elusennau am ddarparu triniaethau yng Nghymru ond dydyn nhw ddim wedi cael eu comisiynu na'u chefnogi i gynnig y triniaethau hyn."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wella gwasanaethau iechyd ar gyfer milwyr a chyn-filwyr.

"Mae bwrdd y bartneriaeth yn gweithio'n galed i sicrhau bod cofnodion personol yn cael eu trosglwyddo'n effeithiol o'r Fyddin i feddygon teulu pan mae milwyr yn gadael y Fyddin ac i godi ymwybyddiaeth am faterion sy'n ymwneud â'r Fyddin ymysg meddygon teulu."