Milwr marw yn 'dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig'
- Cyhoeddwyd
Mae cariad milwr, y cafwyd hyd iddo'n farw mewn chwarel yn Sir Benfro, wedi dweud ei fod yn dioddef yn ofnadwy o anhwylder straen ôl-drawmatig.
Y gred yw bod yr Is-Sarjant Dan Collins, 29 oed o Tiers Cross ger Hwlffordd ac aelod o'r Gwarchodlu Cymreig, yn cael hunllefau rheolaidd ac yn deffro'n sgrechian yn y nos.
Yn ôl Vicky Roach, fu mewn perthynas â'r milwr ers dwy flynedd, roedd wedi ceisio lladd ei hun yn y gorffennol.
Cafodd cwest i'w farwolaeth ei agor a'i ohirio ddydd Mercher.
Cafodd plismyn eu galw i Chwarel Pantmaenog yn Rosebush ychydig wedi 3pm Ddydd Calan.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys ar y pryd fod y farwolaeth yn "anesboniadwy".
Diodde'
"Nid dyma'r tro cyntaf i'r hyn a ddigwyddodd ddydd Sul ddigwydd - nid dyma ei ymgais gyntaf - mae hi wedi bod yn anodd," meddai Ms Roach.
"Dwi wedi ei weld o wedi trio sawl tro, ond yn amlwg roedd y cariad oedd ganddo tuag at eraill a'r cryfder wedi ei gynnal.
"Ond roedd yn diodde' llawer.
"Fe wnaethom ein gorau.
"Yr unig gysur yw ei fod mewn hedd nawr."
Mae Ms Roach yn galw am fwy o gefnogaeth i elusennau sy'n ceisio cynorthwyo milwyr sy'n diodde o'r anhwylder.
"Os ydach chi'n colli braich neu goes - ydi mae'n ofnadwy ond mae modd dygymod a symud ymlaen ac mae cymorth ar gael.
"Allai dan ddim symud ymlaen. Roedd yn brwydro yn ddyddiol."
Fe wnaeth Mr Collins wasanaethu yn nhalaith Helmand yn Afghanistan.
Fe gollodd o ddau ffrind yno.
Llwyddodd i osgoi cael ei ladd yno ar sawl achlysur, bu mewn dau ffrwydrad.
Ar un achlysur cafodd ei saethu gan aelod o'r Taliban gyda'i wisg yn ei achub.
Fe wnaeth gyfarfod y person wnaeth y wisg er mwyn diolch iddo am achub ei fywyd.
Sŵn
Dywedodd Ms Roach iddi ei gyfarfod ym mis Chwefror 2010 ar ôl iddo ddychwelyd o Afghanistan.
Er ei fod yn llawn bywyd fe ddechreuodd sylwi ar ymddygiad anarferol.
"Dwi'n cofio un digwyddiad yn glir," meddai.
"Roeddem yn cerdded drwy'r archfarchnad, ac roedd un o'r cewyll mawr sy'n dal y bwyd yn cael ei lusgo gan wneud sŵn.
"Roedd y sŵn wedi ei ddychryn ac fe wnaeth y digwyddiad ei ysgwyd.
"Roedd o fel gwn yn cael ei saethu yn gyson ac fe syrthiodd i'r llawr."
Dywedodd ei fod yn cael hunllefau ac yn sgrechian a gweiddi yn ystod y nos.
Fe arweiniodd hynny ati i'w holi a ddylai gael cymorth.
Dywedodd bod y Fyddin wedi bod "yn wych" o ran y gefnogaeth gafodd ei phartner a'i fod wedi derbyn cwnsela cyson.
"Ond roedd wedi ei effeithio gan y digwyddiadau ac yn ei chael yn anodd siarad am y peth gyda'i deulu," meddai.
"Dwi'n credu petai o wedi gallu siarad yn agored y byddai wedi bod o gymorth iddo.
"Fe wnaeth y Fyddin, ei fam a minnau roi pob cymorth iddo
"Allech chi ddim dweud weithiau pa mor isel oedd o, roedd ganddo ofn ein gadael ni i lawr, dyna ei bryder mwya."
Doedd y Weinyddiaeth Amddiffyn ddim am wneud sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2012