Amheuaeth am ddyfodol Cheryl Gillan yn y cabinet

  • Cyhoeddwyd
Trên HS2Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai'r trên cyflym deithio hyd at 250 milltir yr awr rhwng Llundain a Birmingham

Mae 'na ddyfalu a fydd Ysgrifennydd Cymru yn ymddiswyddo o'r cabinet os bydd Llywodraeth San Steffan yn parhau â chynllun trên cyflym rhwng Llundain a Birmingham.

Wedi adroddiad gan Network Rail ddydd Sadwrn, mae disgwyl y bydd y cabinet yn cymeradwyo'r cynllun dadleuol ddydd Mawrth.

Fe fyddai'r rheilffordd yn mynd trwy etholaeth Cheryl Gillan ac mae hi'n gwrthwynebu'r prosiect yn chwyrn.

Yn ôl cyn-gadeirydd y Ceidwadwyr yn ei hetholaeth, Chesham ac Amersham yn Sir Buckingham, fe fyddai'n anodd iawn iddi barhau yn y cabinet os yw'r llywodraeth yn bwrw 'mlaen â'r cynllun.

Credir bod yr adolygiad wedi dod i'r casgliad na fyddai'r ddau ddewis amgen yr oedd gwrthwynebwyr yn ei ffafrio yn "creu digon o le".

Cwtogi'r daith

Mae cynllun HS2 wrth £17 biliwn, cynllun gafodd ei gyflwyno gan y Llywodraeth Llafur ac sy'n dal i gael ei ystyried gan y glymblaid.

Y disgwyl yw y byddai'r cysylltiad 100 milltir yn cael ei adeiladu rhwng 2016 a 2026 a'r bwriad yw cwtogi'r daith rhwng Llundain a Birmingham hyd at 49 munud.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cheryl Gillan yn gwrthwynebu'r cynllun drwy ei hetholaeth

Dyma fyddai cam cyntaf cynllun HS2 a fyddai'n cael ei ymestyn tua'r gogledd yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod y rhai sy'n gwrthwynebu'r rheilffordd yn dweud bod 'na welliannau eraill y gellir eu cyflwyno a fyddai'n dwyn yr un elw heb wneud yr un math o gyfaddawdu.

"Mae adolygiad annibynnol Network Rail yn dangos bod y prif ddewisiadau eraill sy'n cael ei ffafrio gan wrthwynebwyr yn dweud na all gynhyrchu'r lle a'r cysylltiad y byddai'r rheilffordd cyflymder cyflym yn ei ddarparu.

"Dyna paham y mae'r llywodraeth yn y broses o ystyried o ddifri y cwestiwn o godi'r fath reilffordd."

'Dim tystiolaeth'

Mae Ms Gillan wedi dweud, er ei gwrthwynebiad i'r gwasanaeth yn Lloegr, bod y cynlluniau i drydaneiddio'r gwasanaeth rhwng Llundain Paddington a de Cymru yn "hanfodol i economi Cymru".

Mae'r cynlluniau i drydaneiddio'r brif lein wedi ei gymeradwyo ers mis Mawrth 2011 dim ond hyd at Gaerdydd.

Dywedodd Llywodraeth San Steffan ar y pryd "nad oedd tystiolaeth fod galw" am y gwasanaeth o Gaerdydd ymlaen i Abertawe.

Mae Ms Gillan wedi dweud y bydd yr achos i drydaneiddio'r gwasanaeth hyd at Abertawe yn cael ei adolygu.

Ym mis Rhagfyr fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn awyddus i "gynnal system reilffyrdd modern ac effeithlon", a'u bod yn paratoi achos busnes ar gyfer trydaneiddio llinell y Great Western o Abertawe i Gaerdydd, gan gydweithio â Network Rail ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol