Ysbytai: Pryder ynghylch newidiadau yng ngogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr wedi trefnu cyfarfod yn dilyn pryderon ynghylch newidiadau sy'n effeithio ar ysbytai cymunedol ac unedau mân anafiadau yng ngogledd Cymru dros y gaeaf.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fe wnaed newidiadau oherwydd y sefyllfa ariannol, ac am eu bod yn disgwyl cynnydd mewn afiechydon difrifol a salwch ymysg staff.
Dywed y bwrdd iechyd fod y "newidiadau brys i'r gwasanaeth" yn angenrheidiol.
Ond mae'r cyngor iechyd yn pryderu am y modd y cyflwynwyd y newidiadau.
Meddyg teuluol
Mae'r trafodaethau yn cael eu cynnal ddydd Mawrth ac maen nhw'n dilyn gwrthdystiadau gan bobl sy'n pryderu am y newidiadau dros dro rhwng mis Ionawr a mis Mawrth.
Mynychodd 500 o bobl gyfarfod cyhoeddus ym Mhwllheli ddiwedd mis Rhagfyr pan drafodwyd toriadau gwelyau a thoriadau oriau agor uned mân anafiadau ysbyty Bryn Beryl yn y dref.
Cafodd grŵp ymgyrchu ei sefydlu yn Rhuthun, Sir Ddinbych, am fod pobl leol yn poeni am effaith cau uned mân anafiadau ysbyty'r dref dros dro gan olygu bod rhaid i gleifion gael eu trin gan eu meddyg teuluol neu yn uned mân anafiadau Ysbyty Cymunedol Dinbych.
Eisoes mae'r bwrdd iechyd wedi datgan bod yr holl newidiadau yn rhai dros dro yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi gwneud newidiadau tebyg yn Sir Benfro, sy'n effeithio ar ysbytai yn Ninbych-y-pysgod a Doc Penfro.
Bydd swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n rheoli gwasanaethau iechyd yn yr ardal, yn cyfarfod ag aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr, sy'n gwarchod y gwasanaethau hyn, fore dydd Mawrth.
'Dyletswydd gofal'
"Mae cynrychiolwyr yn Rhuthun a Phwllheli wedi codi pryderon," meddai llefarydd ar ran y cyngor iechyd, gan ychwanegu nad oedd swyddogion y bwrdd wedi ymgynghori â nhw tan "y funud olaf".
Ychwanegodd fod y cyngor iechyd am wybod pryd fyddai'r newidiadau dros dro yn dod i ben.
Dywedodd datganiad ar eu rhan: "Rydyn ni wedi trefnu cyfarfod brys gyda rheolwyr y bwrdd iechyd i drafod y modd y gwnaed y newidiadau, yn ogystal â'r newidiadau eu hunain.
"Ym mis Tachwedd y llynedd, dywedodd y bwrdd iechyd eu bod wedi cytuno trefnu cyfarfodydd gyda deiliaid diddordeb ym mis Chwefror a mis Mawrth eleni pan fydden nhw'n "cael cyfle arall i helpu ffurfio gwasanaethau iechyd lleol".
Dywedodd datganiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae gennym ddyletswydd gofal a chyfrifoldeb i sicrhau diogelwch cleifion, felly rydym wedi cymryd camau priodol i weithredu'r newidiadau brys i'r gwasanaeth am gyfnod o dri mis."