Dan Collins: Angladd milwrol

  • Cyhoeddwyd
Y Sarjant Dan Collins yn 2010Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr Is-Sarjant Dan Collins o'r Gwarchodlu Cymreig ei ddarganfod yn farw Ddydd Calan

Cafodd angladd milwr y cafwyd hyd iddo'n farw mewn chwarel yn Sir Benfro ar Ddydd Calan ei gynnal ddydd Mercher.

Roedd yna angladd anrhydedd milwrol llawn ar gyfer Is-Sarjant Dan Collins, 29 oed yn Eglwys y Santes Fair, Aberteifi.

Dywed ei deulu fod Is-Sarjant Collins o Tiers Cross ger Hwlffordd wedi bod yn dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) wedi iddo wasanaethu yn Afghanistan.

Mae ei deulu wedi datgan eu bod am gefnogi elusennau sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i aelodau a chyn-aelodau o'r lluoedd arfog a'u teuluoedd.

Talaith Helmand

Mae'r elusen PTSD o Ben-y-bont ar Ogwr, Healing The Wounds, wedi derbyn dwsinau o alwadau ffôn yn gofyn am eu help yn dilyn marwolaeth Is-Sarjant Collins.

Dywedodd cyd-sylfaenydd Healing The Wounds, Kevin Richards, sy'n gyn-feddyg milwrol, fod yr elusen wedi derbyn llwyth o e-byst a galwadau ffôn gan filwyr ac aelodau o'u teuluoedd oedd yn poeni amdanynt wedi i gariad Is-Sarjant Collins, Vicky Roach, siarad yn gyhoeddus am ei ddioddefaint.

Dywedodd Ms Roach fod ei chymar wedi ceisio lladd ei hun yn y gorffennol.

Fe wnaeth Is-Sarjant Collins wasanaethu yn nhalaith Helmand yn Afghanistan lle bu farw ddau o'i ffrindiau.

Llwyddodd Is-Sarjant Collins i osgoi cael ei ladd yno ar sawl achlysur a bu mewn dau ffrwydrad.

'Stigma'

Yn ystod cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Ms Roach: "Roedd yn diodde' llawer.

"Allai Dan ddim symud ymlaen. Roedd yn brwydro'n ddyddiol.

"Pe baen ni'n gallu achub bywyd un milwr yn y dyfodol byddai hynny'n meddwl y byd i ni."

Dywedodd Mr Richards fod yr elusen wedi derbyn tua 40 e-bost a 30 o alwadau ffôn o rannau gwahanol o'r Deyrnas Unedig yn dilyn sylwadau Ms Roach ar BBC Cymru.

"Mae'r rhan fwyaf o'r bobl hyn wedi dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) am flynyddoedd ac, o'r diwedd, maen nhw'n gofyn am help.

"Mae llawer o filwyr yn meddwl bod stigma yn gysylltiedig â PTSD felly mae'n bwysig i drafod y mater hwn gan sicrhau y bydd mwy o bobl yn cysylltu â ni.

"Rwy'n gobeithio y bydd llawer o fywydau yn cael eu hachub fel rhan o etifeddiaeth Dan."

Cafodd cwest i farwolaeth Is-Sarjant Collins ei agor a'i ohirio ar Ionawr 4.