300 yn angladd milwr

  • Cyhoeddwyd
Arch yr Is-Sarjant Dan Collins yn cael ei gludo o'r EglwysFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Arch yr Is-Sarjant Dan Collins yn cael ei gludo o'r Eglwys

Roedd 300 yn angladd yr Is-Sarjant Dan Collins, 29 oed, yn Eglwys y Santes Fair, Aberteifi.

Cafwyd hyd iddo'n farw mewn chwarel yn Sir Benfro Ddydd Calan.

Yn yr angladd roedd nifer o deyrngedau i'r "dyn poblogaidd oedd yn gwneud ffrindiau'n hawdd" a'r dyn oedd "wrth ei fodd yn y Fyddin."

Mae ei deulu wedi dweud bod y milwr o Tiers Cross ger Hwlffordd wedi dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig wedi iddo wasanaethu yn Afghanistan.

Ar ôl y gwasanaeth angladdol roedd casgliad ar gyfer elusen sy'n cynnig triniaeth i filwyr sy'n dioddef o'r anhwylder.

"Mae hon yn golled enfawr ac yn drasiedi fydd yn cael ei theimlo drwy'r bataliwn," meddai'r Cyrnol Dino Bossi.

Talaith Helmand

Mae'r elusen o Ben-y-bont ar Ogwr, Iachau'r Clwyfau, wedi derbyn dwsinau o alwadau ffôn yn gofyn am eu help wedi marwolaeth yr Is-Sarjant Collins.

Dywedodd cyd-sylfaenydd yr elusen, y cynfeddyg milwrol Kevin Richards, eu bod wedi derbyn 40 o e-byst a 30 o alwadau ffôn oddi wrth filwyr ac aelodau teuluoedd wedi i gariad Is-Sarjant Collins, Vicky Roach, siarad yn gyhoeddus am ei ddioddefaint.

Dywedodd hi fod ei chymar wedi ceisio lladd ei hun yn y gorffennol.

Roedd yr is-Sarjant yn nhalaith Helmand yn Afghanistan lle bu farw dau o'i ffrindiau.

Llwyddodd yntau i osgoi cael ei ladd yno sawl gwaith a bu mewn dau ffrwydrad.

'Stigma'

Dywedodd Ms Roach: "Roedd yn diodde' llawer. Allai Dan ddim symud ymlaen ... roedd yn ymladd yn erbyn yr anhwylder bob dydd.

"Os gallwn ni achub bywyd un milwr yn y dyfodol byddai hynny'n meddwl y byd i ni."

Dywedodd Mr Richards: "Mae'r rhan fwyaf o'r bobl hyn (gysylltodd â'r mudiad) wedi diodde o anhwylder straen ôl-drawmatig am flynyddoedd ac, o'r diwedd, maen nhw'n gofyn am help.

"Mae llawer o filwyr yn meddwl bod stigma yn gysylltiedig â'r anhwylder felly mae'n bwysig trafod y mater hwn, gan sicrhau y bydd mwy o bobl yn cysylltu â ni.

"Rwy'n gobeithio y bydd llawer o fywydau yn cael eu hachub ..."

Cafodd cwest i farwolaeth yr Is-Sarjant Collins ei agor a'i ohirio ar Ionawr 4.