Archesgob i gysegru canolfan addysg crefyddol newydd
- Cyhoeddwyd
Bydd canolfan addysg newydd yn cael ei chysegru Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, mewn gwasanaeth arbennig yn Wrecsam ddydd Sadwrn.
Mae'r ganolfan ar gyfer Addysg Crefyddol a Datblygu Ffydd wedi ei lleoli yn eglwys y plwyf, Sant Silyn.
Nod y ganolfan £500,000 yw hybu addysg grefyddol mewn ysgolion.
Bydd hefyd yn cynorthwyo yng ngwaith yr eglwys gyda phobl ifanc.
'Ysbrydoli'
Dywedodd Dr Morgan: "Mae dysgu am wahanol grefyddau a beth y gall pobl ifanc weld fod cymryd crefydd o ddifrif yn ogystal â gweld bywyd o safbwyntiau eraill yn bwysicach nag erioed heddiw.
"Yr her i'r ganolfan newydd yma fydd i ddarparu deunyddiau o ansawdd uchel fydd yn ennyn diddordeb ac yn ysbrydoli plant a phobl ifanc.
"Rwyf yn falch iawn i'w gysegru ac yn dymuno bob llwyddiant iddi."
Mae ysgolion eisoes yn ymweld â'r ganolfan ac mae'r tîm addysg wedi datblygu 21 gweithdy i addysgu pobl ifainc.
Gavin Craigen yw cyfarwyddwr gweithredol y ganolfan.
"Ein nod yw gweld Addysg Crefyddol yn cael ei ddysgu'n fwy effeithiol i blant a phobl ifainc - nid yn unig yn Wrecsam ond ledled Gymru." meddai.
Mae'r prosiect wedi ei sefydlu mewn cysylltiad gyda Chanolfan y Santes Fair yn Abergwyngregyn, Sefydliad Addysg Blwyfol Wrecsam ac Eglwys Sant Silyn.
Bydd y gwasanaeth cysegru yn cael ei gynnal am 3pm ar ddydd Sadwrn, Ionawr 14.