Arddangosfa i egluro cynlluniau i adfer tŷ crand o Oes Fictoria

  • Cyhoeddwyd
Insole CourtFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen gwario £4m er mwyn adfer Insole Court

Mae ymgyrchwyr sy'n gobeithio achub plasty Fictorianaidd yng Nghaerdydd yn cynnal arddangosfa i egluro eu cynlluniau.

Eisoes mae'r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £165,000 er mwyn i'r ymgyrchwyr baratoi cynlluniau i adfer Insole Court yn Llandaf.

Pe bai'r cynlluniau yn cael eu cymeradwyo mae yna bosibilrwydd o ddenu £1.9 miliwn ychwanegol o arian Loteri er mwyn cwblhau'r cynllun a fydd yn costio £4 miliwn.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei gynnal yn y tŷ rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn a dydd Sul Ionawr 14 a 15.

Cafodd y tŷ ei godi yn 1856 gan James Harvey Insole, perchennog pwll Cymer yn Y Rhondda.

Adnewyddu

Trwy gynhyrchu Glo Stêm Y Rhondda a'i werthu drwy ei swyddfeydd yn Nociau Caerdydd, daeth y teulu yn gyfoethog dros ben.

Tyfodd y tŷ i gyd-fynd â'u statws yn y gymdeithas.

Yn ôl ymgyrchwyr, mae'r tŷ yn un o'r ychydig enghreifftiau o'i fath o'r cyfnod Fictorianaidd.

Bydd yna gyfle i ymwelwyr fynd o amgylch y tŷ ac i siarad â gwirfoddolwyr am y cynllun.

"Mae angen adnewyddu'r ddau lawr uchaf yn gyfan gwbl," meddai un o'r gwirfoddolwyr.

"Ond mae nifer o'r nodweddion gwreiddiol wedi goroesi."

Pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo fe allai'r gwaith gychwyn erbyn diwedd 2012. Y nod yw cwblhau'r gwaith erbyn 2014.

Byddai'r tŷ yn cynnwys caffi, canolfan i'r henoed a meithrinfa. Mae yna fwriad hefyd i ddarparu gweithdai ar gyfer busnesau bychain.

Safle pwysig

Cafodd y tŷ ei brynu gan Gyngor Caerdydd yn 1938 drwy orchymyn gorfodol.

Eleni cafodd y safle ei drosglwyddo i ofal ymddiriedolaeth.

Dywedodd y cynghorydd Nigel Howells, aelod o gabinet y cyngor sydd â chyfrifoldeb am ddiwylliant: "Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i weithio gydag Ymddiriedolaeth Insole Court a grwpiau eraill i gwblhau'r broses hon.

"Gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at gyfnod newydd ar gyfer y safle pwysig hwn i Gaerdydd."