Peacocks: 'Trafodaethau'n parhau'

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Peacocks yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni yn cyflogi 400 staff yng Nghaerdydd

Mae cwmni siopau dillad Peacocks wedi gwrthod gwneud sylw am sibrydion eu bod yn wynebu mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mae'r cwmni o Gaerdydd - sydd â 550 o siopau ac sy'n cyflogi tua 400 yn eu pencadlys - wedi bod yn trafod eu dyledion gyda chyfranddalwyr.

Mae ymgynghorwyr annibynnol KPMG eisoes yn adolygu llyfrau'r cwmni.

Tra'n gwrthod gwneud sylw am adroddiadau mewn papur newydd, dywedodd lelfarydd ar ran y cwmni bod trafodaethau'n parhau.

Mae'r cwmni wedi lleoli ei bencadlys yng Nghaerdydd ers 72 o flynyddoedd er iddo gael ei ffurfio gan Albert Peacock yn Sir Gaer yn 1884.

Cynnydd

Cyhoeddodd y cwmni - sy'n rhedeg 750 o siopau o dan deitlau Peacocks a Bon Marche - eu bod wedi gweld cynnydd o 17% mewn gwerthiant dros gyfnod y Nadolig.

Mae adroddiad ym mhapur y Sunday Telegraph yn dweud mai asgwrn y gynnen yw os yw'r banciau - sy'n cael eu harwain gan Barlcays ac RBS - yn fodlon derbyn colled ar fenthyciadau a wnaed i'r cwmni.

Mae'r BBC ar ddeall bod y cwmni yn masnachu ac yn gwneud elw ar hyn o bryd, ac mai mater o RBS yn tynnu nôl o'r trafodaethau yw'r broblem.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Barclays: "Mae Barclays wedi bod yn fodlon cefnogi'r rheolwyr wrth geisio ail-strwythuro'r busnes ar bob cam o'r daith."

Gofynnwyd i RBS am sylw ar y mater.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol