£33m i godi tai cyngor newydd yn y brifddinas
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir a Dinas Caerdydd wedi clustnodi £33 miliwn ar gyfer adeiladu tai cyngor newydd dros y pum mlynedd nesaf.
Yr Aelod Gweithredol dros Dai, Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Cynghorydd Judith Woodman, gyhoeddodd hyn.
Disgwylir creu 250 o swyddi o ganlyniad i'r gwaith newydd fydd yn hwb sylweddol i'r economi leol.
Bydd ail gam Cynllun Partneriaeth Caerdydd, sydd eisoes wedi cyflenwi dros 100 o dai cyngor newydd, yn gorffen o fewn pum mlynedd.
A bydd tai cynaliadwy sy'n effeithlon o ran tanwydd yn cael eu hadeiladu ar safleoedd tir llwyd ym meddiant y cyngor.
Pwrpas Partneriaethau Tai yw cyflenwi 1,000 o dai newydd, 400 ohonyn nhw'n dai fforddiadwy i'w rhentu.
10,000
"Fe fydd y tai yn mynd gryn ffordd wrth ateb yr heriau a wynebwyd o ran darparu ar gyfer y rhai y mae angen tai arnyn nhw," meddai'r Cynghorydd Woodman.
"Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar heriau tai posibl eraill, gan gynnwys y diffyg tai rhent cymdeithasol, anallu pobl i brynu tŷ am y tro cynta a'r angen i ddatblygu ar safleoedd tir llwyd."
Dywedodd fod yr angen i godi tai cymdeithasol yn fwy amlwg dros y blynyddoedd diwethaf gyda dros 10,000 o bobl ar y rhestrau aros.
Bydd y cyngor yn gweithio gyda datblygwr tai partner i godi tai i'w gwerthu ar y farchnad agored a chynnig tai fforddiadwy i brynwyr tro cyntaf sy'n cael trafferth ymuno â'r farchnad dai.
Hefyd bydd y cynllun yn canolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy - sicrhau bod tai newydd yn effeithlon i'w gwresogi a'u pweru.
Bydd y broses dendro yn yr haf a'r gwaith yn dechrau ar y cynllun cyntaf yn 2013-14.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2012