Ceisio dod o hyd i fuddsoddwr

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Peacocks yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni yn cyflogi 400 o staff yng Nghaerdydd

Mae cwmni Peacocks, sydd a'i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Gwnaed y cyhoeddiad bnawn dydd Mercher.

Mae gan y cwmni tua 611 o siopau yn y Deyrnas Unedig ac yn cyflogi tua 9,600.

Y gweinyddwyr yw Richard Fleming, Chris Laverty, Ed Boyle a Joff Pope o gwmni KPMG.

Dywedodd llefarydd y bydd y siopau yn parhau i fasnachu fel arfer tra eu bod yn ceisio dod o hyd i brynwr neu brynwyr.

Ychwanegodd nad oedd yr un o'r siopau wedi eu cau ac nad oedd unrhyw un wedi ei ddiswyddo.

Dyw Bonmarché business, sy'n rhan o Grwp Peacock, heb ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Roedd gan Peacocks ddyledion o £240 miliwn.

Mae'r cwmni'n cyflogi mwy na 400 yn ei bencadlys yng Nghaerdydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol