Trafod cwmni yn y Senedd
- Cyhoeddwyd
Yn y Senedd ym Mae Caerdydd dywedodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, fod y llywodraeth wedi cysylltu â phrif fenthycwyr cwmni Peacocks er mwyn trafod cynllun i geisio ei achub.
Os nad yw'r cwmni, sydd angen ailstrwythuro dyledion o £249m, yn dod o hyd i fuddsoddwr mewn 10 diwrnod, mae'n mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Mae'r cwmni'n cyflogi mwy na 400 yn ei bencadlys yng Nghaerdydd.
Roedd Andrew R T Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, wedi cyflwyno cwestiwn brys.
Dywedodd fod y newyddion am Peacocks yn "ffynhonell gofid ar adeg pan mae siopau mawr yr Heol Fawr yn ei chael hi'n anodd.
"Gallai'r effaith fod yn ysgytwol am fod y pencadlys yng Nghaerdydd a chanolfannau dosbarthu yn Nantgarw, Merthyr a Threorci."
Eisoes mae Kevin Brennan, AS Gorllewin Caerdydd, wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i ymyrryd.
"Gallai hon fod yn ergyd fawr i bobl Caerdydd a de Cymru a byddai'n niweidio economi Cymru'n fawr iawn," meddai.
'Cyfle da'
"Dwi'n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wneud popeth posib, nid yn unig i annog mwy o drafodaethau rhwng y cwmni a'u banciau a'u benthycwyr ond hefyd helpu'r cwmni i ddiogelu swyddi."
Dywedodd Maureen Hinton o Verdict Research fod Peacocks yn "gyfle da a deniadol, ar wahân, hynny yw, i ddyledion y cwmni.
"Mae'n gwmni Prydeinig ac yn amlwg iawn yn y sector dillad."
Eisoes mae ymgynghorwyr annibynnol KPMG wedi adolygu llyfrau'r cwmni â 550 o siopau ym Mhrydain.
Yng Nghaerdydd mae pencadlys Peacocks ers 72 o flynyddoedd ond yn Sir Gaer y ffurfiodd Albert Peacock y cwmni ym 1884.
Cyhoeddodd y cwmni fod 17% yn fwy o werthiant dros y Nadolig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2012