Achosion brys ar eu hucha ers 10 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Pelydr-X
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clefydau'n cynnwys broncitis ac emffysema

Mae ystadegau'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru'n dangos bod nifer yr achosion brys â chlefydau'r ysgyfaint ar ei ucha ers 10 mlynedd.

Dywedodd Sefydliad yr Ysgyfaint yng Nghymru fod angen help ar gleifion emffysema ynghynt.

Mae cadeirydd y mudiad wedi rhybuddio y gallai'r nifer gynyddu am flynyddoedd wrth i'r rhai oedd yn ysmygu 20 mlynedd yn ôl - pan oedd ysmygu ar ei anterth - fynd yn sâl.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwella help cymunedol.

Yn 2010-11, aeth 46,218 o achosion brys i mewn i ysbytai, y ganran ucha ym Merthyr Tudful a'r isa ym Mhowys.

Y clefydau mwya cyffredin, meddai cadeirydd y mudiad, y Dr Patrick Flood-Page, oedd emffysema, broncitis a niwmonia.

Gallai feirws neu dywydd oer effeithio ar yr ystadegau, meddai, ond prif reswm y cynnydd oedd ysmygu.

"Mae'n debyg y bydd nifer y rhai sy'n diodde o Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint, hynny yw broncitis ac emffysema, yn codi o bosib tan 2020.

"Ac mae hyn ar sail y nifer oedd yn ysmygu 20 mlynedd yn ôl."

Dywedodd fod angen rhoi triniaeth yn y gymuned cyn bod y niferoedd yn gostwng a bod rhestrau aros ar gyfer rhaglenni adsefydlu'n rhy hir.

'Rheoli'r cyflwr'

Roedd Brian Lawley, 65 oed o Abertawe, yn gorfod mynd i'r ysbyty am ei fod yn diodde o Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint.

"Roedd y rhaglen adsefydlu'n werthfawr ... mae rhywun yn dysgu rheoli'r cyflwr a wy ddim wedi bod yn yr ysbyty ers 2003," meddai.

"Wnes i roi'r gore i smocio ar ôl mynd yn dost. Y tro cynta ma' rhywun yn mynd am Belydr-X mae'n stopio.

"S'dim modd gwella'r clefyd ond ma' modd ei arafu."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw, y sefydliad a'r byrddau iechyd lleol wedi bod yn adnabod heriau'r rhaglenni adsefydlu.

"Mae'r gwasanaeth ar gael ymhob bwrdd iechyd lleol a chynllun gweithredu ymhob un.

"Rydym yn cadw golwg ar y sefyllfa er mwyn sicrhau bod modd cwrdd â'r galw a lleihau rhestrau aros."