Peter Hain yn cyfeirio at 'ddiffyg parch' Tony Blair at Gymru mewn llyfr newydd

  • Cyhoeddwyd
Tony Blair a Peter Hain yn Y Barri yn 2005Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Peter Hain bod 'na "fethiant mawr" yn y broses ail-wampio'n ymwneud â Swyddfa Cymru

Wnaeth Tony Blair a'i dîm erioed "roi digon o sylw i Gymru", yn ôl Peter Hain, fu'n Ysgrifennydd Cymru tra bu Mr Blair yn brif weinidog.

Yn ei gofiant, 'Outside In', dywed Mr Hain fod proses ad-drefnu, oedd yn golygu lleihau rôl Ysgrifennydd Cymru i un rhan-amser yn y cabinet yn "gawlach llwyr".

Mae'r Aelod Seneddol dros Gastell-nedd yn honni fod y newidiadau yn 2003 yn ymddangos fel petai nhw "wedi'u taflu at ei gilydd ar y funud ola'".

Cafodd Swyddfa Cymru ei gynnwys yn beth oedd yn Adran Materion Cyfansoddiadol (bellach yn Weinyddiaeth Cyfiawnder).

Yn ôl Mr Hain, fu'n Ysgrifennydd Cymru i Mr Blair yn ystod ei gyfnod yn Stryd Downing, roedd 'na ddryswch ar y cychwyn a oedd yr adran wedi ei diddymu ai peidio.

Roedd hyd yn oed Mr Blair yn ansicr a fyddai Ysgrifennydd Cymru'n parhau i ateb cwestiynau Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin.

'Methiant llwyr'

Dywedodd Mr Hain yn ei lyfr: "Ar un adeg roedd hi'n ymddangos fod swydd yr ysgrifennydd gwladol wedi mynd, bod Cymru'n cael ei throsglwyddo i adran o dan arglwydd anetholedig, yr Arglwydd Falconer."

Ychwanegodd fod Swyddfa Cymru mewn helbul, gyda staff yn clywed am y newidiadau ar y teledu.

"I lywodraeth oedd i fod yn rhagorol am gyfathrebu, dyma esiampl arall o fethiant llwyr - yn enwedig os, fel yr oedd yn ymddangos yn ddiweddarach, fod y cyfan wedi'i ystyried dros gyfnod yn hytrach na wedi'i daflu at ei gilydd ar y funud ola'."

"Roedd yn dystiolaeth bellach nad oedd Tony Blair a'i dîm yn rhoi digon o sylw a pharch i Gymru, yn wahanol i'r Alban lle'r oedd rôl yr ysgrifennydd gwladol yn llai oherwydd bod deddfwriaeth sylfaenol wedi'i drosglwyddo i Senedd yr Alban.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Symudodd yr Aelod Seneddol dros Gastell-nedd i'r DU o Dde Affrica

"Roedd rôl Ysgrifennydd Cymru'n parhau'n hollbwysig, gan fod 'na gyfrifoldeb am yr holl ddeddfwriaeth sylfaenol i Gymru."

Mae cofiant Mr Hain yn olrhain hanes ei fagwraeth yn Ne Affrica a'i yrfa wleidyddol - o fod yn actifydd gwrth-apartheid i aelod cabinet o dan Tony Blair ac yna Gordon Brown.

Mae'n datgelu sut y bu i gynlluniau i roi rhagor o bwerau i gynulliad Cymru gael eu tanseilio bron gan aelodau'r cabinet, gan gynnwys y dirprwy brif weinidog ar y pryd, John Prescott.

Yn ôl Mr Hain, roedd Mr Prescott yn credu bod rhanbarthau Lloegr dan anfantais ac roedd "yn erbyn" y syniad y gallai Cymru gael pwerau deddfu llawn.

Newid

Dywedodd Jack Straw, yr ysgrifennydd tramor ar y pryd, wrth gyfarfod o'r cabinet fod perfformiad "cwbl warthus" llywodraeth Cymru'n delio â rhestrau aros ysbytai wedi ei synnu ac y byddai'n "hurt dechrau rhoi rhagor o bwerau iddyn nhw".

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Hain yn actifydd gwrth-apartheid fu'n rhan o nifer o brotestiadau ac ymgyrchoedd

Dywed Mr Hain fod Mr Straw o'r farn y dylai llywodraeth y DU fod yn dweud: "Os nad ydych yn cyflawni ar bolisïau fel iechyd fyddwch chi ddim yn cael mwy o bwerau".

Yn ôl Mr Hain, oedd yn arweinydd Tŷ'r Cyffredin ar y pryd, roedd Geoff Hoon - oedd yn gyfrifol am amserlen ddeddfwriaethol y llywodraeth - wedi awgrymu gohirio neu gwtogi ar Fesur Llywodraeth Cymru, ond bod Tony Blair yn erbyn y syniad.

Mae Mr Hain yn cydnabod ei fod wedi newid yn ystod ei siwrne o fod yn ymgyrchydd i fod yn weinidog, gan symud tuag at y canol "ond gan gadw fy sbarc radicalaidd a gwerthoedd gobeithio".