Bethan Rhys Roberts yn ennill dwy wobr BAFTA Cymru

Enillodd Bethan Rhys Roberts y wobr am y cyflwynydd gorau yn ogystal â gwobr abennig Siân Phillips am ei chyfraniad i'r byd teledu
- Cyhoeddwyd
Mae un o newyddiadurwyr a chyflwynwyr amlycaf Cymru wedi derbyn dau o brif wobrau seremoni flynyddol BAFTA Cymru nos Sul.
Fe gadarnhaodd BAFTA ym mis Medi eu bod yn anrhydeddu Bethan Rhys Roberts eleni gyda Gwobr Siân Phillips - gwobr sy'n cydnabod cyfraniad arwyddocaol unigolyn o Gymru i'r byd ffilm neu deledu.
Ond mae prif gyflwynydd Newyddion S4C, sydd hefyd yn cyd-gyflwyno rhaglenni Post Prynhawn a Hawl i Holi ar Radio Cymru, hefyd wedi cael y wobr am y cyflwynydd gorau, am ei gwaith ar noson ganlyniadau etholiad cyffredinol y llynedd.
Y cyflwynwyr eraill ar y rhestr fer oedd y cogydd Chris Roberts, y ddawnswraig Amy Dowden, a Kristoffer Hughes am y gyfres Marw Gyda Kris.
Enillodd y gyfres honno, am draddodiadau'n ymwneud â marwolaeth mewn gwahanol rannau o'r byd, y wobr am y gyfres ffeithiol orau - categori oedd hefyd wedi enwebu'r rhaglen
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2024
Mewn anerchiad i'r seremoni yng Nghanolfan Gynadleddau Rhyngwladol Casnewydd, dywedodd Bethan Rhys Roberts bod "newyddiadura yn newid ar gyflymdra aruthrol", gyda "lluniau, tystiolaeth ac ymateb yn syth ar ein ffonau o unrhyw le yn y byd".
Mae'n amhosib darogan, dywedodd, effaith deallusrwydd artiffisal sy'n "gyffrous" ac yn "ddychrynllyd" ar yr un pryd.
"Mewn byd sy'n pegynnu'n gynyddol, yn llawn adroddiadau croestynnol, mae gohebu diduedd a dadlau teg yn bwysicach nag erioed," fe rhybuddiodd," yn enwedig wrth i ni edrych ymlaen at ambell stori fawr iawn yma yng Nghymru a thramor."
Ychwanegodd: "Rwy'n gobeithio bod y wobr yma'n ysgogi newyddiadurwyr ifanc, a menywod yn arbennig, i fynnu ffeithiau, i graffu ac i herio."

Russell T Davies oedd enillydd gwobr arbennig arall y noson
Roedd yr awdur a'r cynhyrchydd Russell T Davies hefyd yn gwybod wrth gyrraedd y seremoni y byddai'n gadael gyda thlws nos Sul.
Fe dderbyniodd yntau wobr am Gyfraniad Neilltuol i'r Byd Teledu, a hynny, medd BAFTA, am "dorri tir newydd yn y byd drama LGBTQIA+" dros ddau ddegawd.

Martin Thomas yn annerch y seremoni wedi i Deian a Loli gipio'r wobr am y rhaglen blant orau
Roedd yn hysbys ers cyhoeddi'r enwebiadau mai cynhyrchiad Cymraeg fyddai'n cipio'r wobr am y rhaglen blant orau, gan mai rhaglenni ar gyfer S4C oedd y tair ar y rhestr fer.
Nid am y tro cyntaf, Deian a Loli ddaeth i'r brig - Mabinogi-ogi a PwySutPam? oedd y rhaglenni eraill a gafodd eu henwebu.

Sion Daniel Young (ar y dde) oedd enillydd y wobr am yr actor gorau am ei ran yn Lost Boys and Fairies
Cyfres ddrama BBC Cymru, Lost Boys and Fairies, gafodd y nifer fwyaf o enwebiadau eleni, sef saith, ac fe roedd yn fuddugol mewn pump o'r categorïau, gan gynnwys y Ddrama Deledu Orau.
Daf James oedd yr Awdur Gorau, Sion Daniel Young oedd yr Actor Gorau, James Kent oedd y cyfarwyddwr ffuglen gorau ac roedd yna gydnabyddiaeth i Danielle Palmer am ei gwaith golygu.
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2024
Aeth wobr y categori Newyddion a Materion Cyfoes i raglen BBC Wales Investigates, Unmasked: Extreme Far Right, oedd yn ganlyniad blwyddyn o ymchwilio'n gudd i'r grŵp Patriotic Alternative.
Roedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon hefyd yn cynnwys rhaglen Newyddion S4C am y prifathro a'r pidoffeil, Neil Foden a rhaglen Y Byd ar Bedwar ar achos a chwymp y cyn-gyflwynydd newyddion Huw Edwards.
Luned Tonderai oedd yr enillydd yn y categori Cyfarwyddwr: Ffeithiol am y gyfres Miriam: Death of a Reality Star.
Anna Maxwell Martin oedd yr Actores Orau eleni am ei pherfformiad yn y gyfres Until I Kill You.
Roedd yna ddwy wobr i The Golden Cobra - y rhaglen adloniant orau a'r wobr Torri Trwodd i'r cynhyrchwyr.
Enillodd y ffilm Mr Burton wobrau am sain, a ffotograffiaeth a goleuo, Helmand: Tour of Duty oedd y ddogfen unigol orau, a Mauled By a Dog oedd y Ffilm Fer Orau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi