Seithfed aur i Aled Siôn Davies ym mhencampwriaethau'r byd

Mae'r llwyddiant diweddaraf yn golygu bod Aled Siôn Davies nawr wedi ennill 11 medal aur ym Mhencampwriaethau Para Athletau'r Byd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Aled Siôn Davies wedi ennill ei seithfed medal yn olynol yn un o gystadlaethau Pencampwriaethau Para Athletau'r Byd.
Daeth i'r brig yn y gystadleuaeth taflu maen F63, fel aelod o dîm Prydain Fawr, ar ddiwrnod olaf y cystadlu yn India.
Dyma'r 11eg tro iddo ennill teitl pencampwriaeth byd.
Daw'r llwyddiant fisoedd wedi iddo gorfod cael llawdriniaeth at gyflwr oedd â'r potensial i ddod â'i yrfa i ben.
Mae'n dweud ei fod bellach yn anelu at dorri record byd ei hun wrth gystadlu yng Ngemau Paralympaidd 2028.
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
Fe gipiodd y Cymro 34 oed y fedal aur yn New Delhi ddydd Sul gyda thafliad 16.44m o hyd - ei bumed ymgais yn y rownd derfynol.
Yr athletwr o Kuwait, Faisal Sorour, oedd yn ail ac Edenilson Floriani o Frasil wnaeth ennill y fedal efydd.
"Mae'n eithaf swreal, i fod yn onest," dywedodd Davies wrth BBC Sport.
"Mae Faisal yn dod yn ei flaen ac mae wedi bod yn fy herio, ond dydw i heb allu ymateb iddo yn y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'n teimlo'n dda i fod yn ôl ond rwy'n teimlo bod gymaint yn fwy eto i ddod."

Aled Siôn Davies yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd Paris y llynedd
Roedd Davies yn anelu at gipio'i bedwaredd medal aur yn olynol yn y Gemau Paralympaidd y llynedd, ond bu'n rhaid bodloni ar fedal arian tu ôl i Sorour.
Ers 2022 roedd wedi dioddef poen yng nghesail y morddwyd (groin) oherwydd cyflwr o'r enw Osteitis Pubis, sy'n datblygu o ganlyniad i or-hyfforddi.
"Wedi torcalon y llynedd, a phoen y pedair, pum mlynedd diwethaf oherwydd fy anafiadau, wnes i dderbyn yn y diwedd bod angen ambell atgyweiriad," dywedodd.
"Bu'n rhaid ail-greu fy nghlun, a ges i wybod efallai na fyswn ni'n dychwelyd i'r un safon â ble o'n i.
"Rwy' wedi gwneud hynny. Rwy' wedi dychwelyd, ailgodi popeth yn dawel bach ac rwy' wedi dod yma a chystadlu eto.
"Rwy'n anelu ar gyfer [Gemau Olympaidd 2028 yn] LA. Rwyf am dorri fy record byd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2024