Eglwysi'n beirniadu caniatâd tybiedig

  • Cyhoeddwyd
Dr Barry MorganFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Bu Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, yn annerch trafodaeth diweddar ar y pwnc yng Nghaerdydd

Mae arweinwyr eglwysi Cymru wedi beirniadu cynllun i gyflwyno trefn o ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau.

Mae'r Eglwys Babyddol yng Nghymru, yr Eglwys yng Nghymru a Chenhadaeth Uniongred Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y broses polisi.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr eglwysi eu bod "wedi ymrwymo'n ddwys" i urddas mewn bywyd a marwolaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod am i gymaint o bobl â phosib ymuno yn y drafodaeth ar y mater.

Dywedodd arweinwyr yr eglwysi fod eu hymateb yn seiliedig ar egwyddorion cymdeithasol, moesol a moesegol.

Nod eu datganiad oedd cyfrannu'r elfennau pwysig yma i'r drafodaeth, a bod yr egwyddorion sy'n cael eu hamlinellu yn y ddogfen yn "ceisio cadw urddas ac ymreolaeth bob person tra'n creu fframwaith lle bydd y rhodd o organau yn dilyn marwolaeth yn aros fel ag y dylai fod - rhodd sy'n weithred o haelioni a chariad".

"Ein prif bryder", medd eu datganiad, "yw bod yr ethos positif o roi organau fel rhodd yn cael ei beryglu gan gynllun annoeth - er bod ganddo'r bwriadau gorau - i symud o roi gwirfoddol i ganiatâd tybiedig."

Trafodaeth

Mae'r datganiad yn annog Llywodraeth Cymru i sefydlu pwyllgor trawsbleidiol i ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd i ymchwiliadau blaenorol dros y tair blynedd diwethaf.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths: "Mae yna bythefnos ar ôl o'r ymgynghoriad, ac rwyf am i gymaint o bobl â phosib fod yn rhan o'r drafodaeth.

"Os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod, gadewch i ni wybod beth yr ydych yn feddwl o'r cynlluniau.

"Mae'n gyfnod cyffrous. Rydym yn creu hanes yng Nghymru, ac mae pawb sy'n datgan eu barn yn yr ymgynghoriad yn rhan o'r hanes yna."

Dywedodd Ms Griffiths bod Llywodraeth Cymru am wella bywydau'r cannoedd o bobl sydd ar restr aros am drawsblaniad yng Nghymru a gweddill Prydain.

"Yn ogystal â thrawsnewid bywydau, mae trawsblaniadau yn un o'r triniaethau mwyaf effeithiol sydd gennym, ac mae angen gwneud popeth y medrwn i gynyddu'r nifer o organau sydd ar gael."

O dan gynlluniau Llywodraeth Cymru, bydd pawb yng Nghymru yn rhoddwr oni bai eu bod yn dewis peidio, ac yn cofnodi'r dymuniad yna.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar Ionawr 31.

Ffigyrau

Eisoes mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, wedi galw am ddiddymu'r ddeddfwriaeth.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos mai graddfa rhoi organau yng Nghymru yw 27.7 am bob miliwn person o'i gymharu â graddfa'r DU o 16.3 am bob miliwn person.

Mae hynny'n gosod Cymru yn uwch na nifer o wledydd Ewrop gan gynnwys Ffrainc (23.8), Yr Eidal (21.6) a Gwlad Belg (20.5), sydd eisoes â threfn o ganiatâd tybiedig.

Daeth cefnogaeth i'r newid arfaethedig gan y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, Sefydliad y Galon, Diabetes UK, Sefydliad yr Ysgyfaint a Chymdeithas Cleifion yr Aren Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol