Arolygiaeth yn galw am yr heddlu i gofnodi troseddau'n gywir

  • Cyhoeddwyd
HeddwasFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adolygiad yn dweud bod tri chwarter o'r lluoedd wedi gwneud y penderfyniadau cywir o leiaf 90% o'r amser

Mae angen i heddluoedd wella'r modd y maen nhw'n cofnodi troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ôl arolygiaeth annibynnol.

Yn ôl adolygiad gan Arolygiaeth Ei Mawrhydi (HMIC), mae amrywiaeth eang yng nghywirdeb cofnodi ystadegau troseddau.

Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru oedd yn "cofnodi'n gywir yn gyffredinol" yn ôl yr arolygiaeth ond mae Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent yn "destun pryder".

"Mae'r mwyafrif yn gwneud yn dda," meddai'r Arolygydd Cynorthwyol Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi.

'Llunio darlun'

Fe wnaeth adolygiad HMIC astudio data digwyddiadau a throseddau o bob un o'r 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn ogystal â Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Edrychodd ar sut y cafodd digwyddiadau a adroddwyd gan y cyhoedd eu cofnodi gan luoedd o ran troseddau neu eu cofnodi fel 'dim troseddau wedi eu cyflawni'.

Daeth HMIC i'r casgliad bod tri chwarter o'r lluoedd wedi gwneud y penderfyniadau cywir o leiaf 90% o'r amser.

Er eu bod yn cyfadde' bod y sampl yn "gymharol fach" mae'r arolygiaeth yn dweud bod y canlyniadau yn "ddigon i lunio darlun er mwyn i'r heddluoedd weithredu".

'Angen gwella'

Dywedodd Vic Towell, Arolygydd Cynorthwyol Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, bod yr adolygiad wedi cynnig rhywfaint o oleuni ar yr hyn sy'n digwydd pan mae aelod o'r cyhoedd yn cysylltu gyda'r heddlu i gofnodi trosedd.

"Mae'r casgliadau yn cynnig sicrwydd bod y ffigurau trosedd sy'n cael eu cyhoeddi gan yr heddluoedd yn cael eu harchwilio," meddai.

"Er bod y mwyafrif yn gwneud yn dda, mae'r gwahaniaeth rhwng y gorau a'r gwaethaf yn parhau i fod yn rhy fawr ac mae angen gwella."

Mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ychwanegodd yr arolygiaeth eu bod yn siomedig i weld rhai heddluoedd yn dal heb fynd i'r arfer o ddelio gyda rhai sy'n diodde' yn gyson neu ddioddefwyr bregus.

Dywed byddai'n cyflwyno adroddiad arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mewn ymateb mae Heddlu Gwent wedi dweud eu bod yn croesawu'r adroddiad a'u bod yn parhau i weithio'n galed i sicrhau eu bod yn cofnodi'r wybodaeth berthnasol yn gywir a gweithredu cyn gynted â phosib.

"Tra bod yr adroddiad yn dangos bod yna welliannau o'i gymharu ag adroddiad tebyg yn 2009, mae 'na waith i'w wneud o hyd.

"Fe fydd Heddlu Gwent yn parhau i sicrhau ein bod yn gwella ein perfformiad, lle mae angen."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol