Llywodraeth yn ystyried parlwr godro dadleuol

  • Cyhoeddwyd
Lower Leighton Farm, Tre'r Llai PowysFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Y cynllun yw codi'r parlwr godro ar fferm Lower Leighton Farm yn Nhre'r Llai

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu dyfodol parlwr godro dadleuol.

Bwriad y ffermwr Fraser Jones yw codi parlwr godro ar gyfer 1,000 o wartheg yn Nhre'r Llai ger Y Trallwng.

Ym mis Tachwedd dywedodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Powys eu bod yn "dueddol o gymeradwyo'r cais" ar sail adroddiad am "faterion yn weddill".

Ond mae nifer o grwpiau yn gwrthwynebu'r datblygiad, gan gynnwys mudiadau lles anifeiliaid.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn synnu ac yn siomedig oherwydd y datblygiad diweddara'.

Y llynedd honnodd Compassion in World Farming fod y cynlluniau yn ffurf ar ffermio ffatri.

Mae'r ffermwr wedi gwadu hyn ac wedi dweud y bydd iechyd a lles yr anifeiliaid yn cael eu monitro'n gyson.

'Yn obeithiol'

Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Fraser Jones insists the animals' health would be constantly monitored

Dywedodd y byddai'r gwartheg yn y parlwr am 250 niwrnod y flwyddyn a'i fod wedi treulio tair blynedd ar y cynllun.

"Dwi'n obeithiol y bydd Llywodraeth Cymru yn sylweddoli nad oes 'na risg amgylcheddol na materion eraill fydd yn gallu rhwystro'r cynllun rhag mynd yn ei flaen.

"Dyna oedd teimlad y cynghorwyr ar ôl mynd i'r safle."

Ychwanegodd ei fod wedi bod yn "gwbl agored ac onest" gyda phawb yn ystod y broses, gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd oedd, meddai, yn fodlon ar y cynllun.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol