Agor canolfan Gymraeg newydd Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan Gymraeg newydd Wrecsam yn agor yn swyddogol cyn penwythnos o weithgareddau.
Bwriad Canolfan Saith Seren yw creu lleoliad fydd yn hybu'r iaith yn y dref a'r sir.
Daeth y syniad i sefydlu'r ganolfan yn hen dafarn Seven Stars yn sgil ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.
Cafodd apêl i ariannu'r fenter ei lansio yno ac, yn ôl y trefnwyr, maen nhw wedi derbyn arian o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Bydd yr adeilad enwog ar Stryd Caer ar agor am fwyd yn ystod y dydd ac yn dafarn traddodiadol gyda'r nos.
Caiff gig ei gynnal yno nos Wener cyn yr agoriad mawr ddydd Sadwrn.
Llwyddiant
Dau o bobl Wrecsam sy'n ail-agor y dafarn ar ei newydd-wedd.
Mae Spencer Harris o Frynteg yn gyn-ddysgwr y flwyddyn yn yr Eisteddfod ac wedi bod yn un o Ymddiriedolwyr Cefnogwyr Wrecsam sydd newydd brynu'r clwb pêl-droed lleol.
Un o gyn-chwaraewyr y tîm yw Dixie McNeil.
"Yn ogystal â hyrwyddo'r iaith a diwylliant a cheisio normaleiddio'r Gymraeg fel iaith gymunedol yma yn Wrecsam, mae'n fwriad gan Saith Seren i ddathlu ein tref a'n llwyddiannau lleol," meddai cadeirydd y fenter Marc Jones.
"Mae'r ddau yma wedi llwyddo i hybu'r dref ac mi rydan ni'n falch ohonyn nhw.
"Mae pêl-droed yn bwysig iawn yn Wrecsam ac mae'r ffaith bod y clwb wedi ei gymryd drosodd gan fenter weithredol fel ni, yn dangos be gall y bobl ei wneud os maen nhw eisiau.
"Mae'r dafarn a phêl-droed yn rhannu'r un meddylfryd."
Un a fagwyd yn y dref yw Avril Smith, cynorthwyydd yn Ysgol Morgan Llwyd.
"Dwi'n teimlo ei bod yn syniad gwych cael lle i bobl fynd fel yma.
"Pan wnes i adael yr ysgol, es i weithio mewn lle Saesnig a doedd dim cyfle i bobl ifanc fel ni i gymdeithasu yn Gymraeg.
"Dyna be' mae Wrecsam angen ar ôl beth wnaeth ddigwydd gyda'r Eisteddfod; roedd yn grêt, ac mae angen rhywbeth i gario pethau 'mlaen."
'Ail-gydio yn yr iaith'
Gwibdaith Hen Frân fydd yn y ganolfan nos Wener a Wee Bag, band Gwyddeleg o Ddinbych yno ddydd Sadwrn.
Mae'r fenter yn gobeithio cynnig cerddoriaeth fyw yn Saith Seren.
"Mae o'n ganolfan Gymraeg, ond does ddim modd cynnal nosweithiau Cymreig bob wythnos, felly bydd croeso i fandiau lleol chwarae yma hefyd," ychwanegodd Mr Jones.
"Mae yna 12,000 o siaradwyr Cymraeg yn Wrecsam, a lot o ddysgwyr hefyd.
"Os cewn ni 1% o rai 'na yma bob nos mi wnawn ni lwyth o bres.
"Beth sy'n codi calon rhywun yw bod lot o ddysgwyr wedi dod draw yn barod.
'Yn rhydlyd'
"Mae Cymraeg lot o bobl yn rhydlyd ar ôl yr ysgol ac maen nhw eisiau ail-gydio yn yr iaith."
Mae Carrie Harp, un o'r rhai a fydd yn gwirfoddoli i helpu'r pum staff parhaol i redeg y canolfan.
"Does 'na ddim lot o lefydd i fynd yn Wrecsam i ymarfer fy Nghymraeg," meddai'r ddysgwraig.
"Dwi'n adnabod lot o bobl sydd eisiau dysgu ond mae'n anodd ffeindio rhywle i gael sgwrs naturiol tu allan i'r dosbarth."
Mae'r fenter ar fin cychwyn ar y gwaith o ailwampio'r ail lawr er mwyn gallu rhentu ystafelloedd fel swyddfeydd a chreu lle i gynnal dosbarthiadau nos.
Y nod yw gorffen y gwaith erbyn Mehefin 2012.