Pryder am gost gorsaf heddlu Rhydaman
- Cyhoeddwyd
Mae prif gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud bod gorsaf heddlu gafodd ei hariannu'n breifat ac sy'n costio cannoedd o filoedd o bunnau'r flwyddyn i'r heddlu, ddim yn rhoi gwerth am arian.
Dywedodd Ian Arundale bod gorsaf Rhydaman, a agorwyd yn 2001, yn rhy gostus, wedi ei chynllunio'n anghywir ac ar y safle anghywir.
Bydd yr heddlu yn gwario tua £700,000 arni eleni, gyda'r gost yn codi tan 2031 o dan Fenter Cyllid Preifat.
Dywedodd uwch gynghorydd nad yw'r adeilad yn cael ei ddefnyddio i'w eithaf a'i fod ond yn agored yn ystod y dydd.
£3m
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gwario tua £3m ar dros 50 o adeiladau.
Dywedodd Mr Arundale, a ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys yn 2008, wrth bapur newydd lleol y byddai'n ceisio ail drafod termau'r cytundeb Menter Cyllid Preifat.
"Nid ydym yn cael gwerth am arian," meddai.
"Mae hwn yn gyfnod heriol pan yr ydym yn gorfod gwneud arbedion o 20% mewn termau real".
Adroddwyd bod yr orsaf wedi costio tua £3m pan agorwyd hi.
'Mini nid Rolls'
Mae disgwyl i Heddlu Dyfed-Powys arbed £34m erbyn 2015 a £13m ym mhob blwyddyn wedi hynny.
Dywedodd y cynghorydd lleol a dirprwy arweinydd cyngor Sir Gaerfyrddin, Kevin Madge wrth BBC Cymru: "Yr addewid oedd Rolls-Royce o orsaf ond rydym wedi cael Mini ac mae pobl yn ddig iawn".
"Dyma'r Fenter Cyllid Preifat ar ei gwaethaf".
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw'n defnyddio Mentrau Cyllid Preifat gan ei bod "tan gwmwl".
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn brysur yn chwilio am gyfleoedd eraill, gan gynnwys pwyso ar lywodraeth y DU i ganiatáu i ni ddefnyddio grym benthyg ac ystyried ffyrdd dyfeisgar o godi arian cyfalaf.
"Byddai'r rhain yn cynnwys sefydliadau dielw a phartneriaethau preifat/cyhoeddus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2012