Atal ariannu elusen
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi atal ariannu corff lleiafrifoedd ethnig mwya Cymru yn sgil honiadau am lygredd ariannol.
Roedd adroddiad wedi beirniadu Prif Weithredwr Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru, Naz Malik.
Nos Iau mae rhaglen BBC Cymru, Dragon's Eye, yn codi cwestiynau ynglŷn â faint yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei wybod am yr honiadau.
Dyw Mr Malik ddim yn fodlon rhoi sylw'n gyhoeddus.
Mae'r llywodraeth yn cydweithio gyda Heddlu'r De oherwydd honiadau yn erbyn y prif weithredwr.
Dywedodd y Swyddfa Ariannu Ewropeaidd yng Nghymru nad oedden nhw'n rhoi £3m i'r elusen sy'n derbyn £8.4m o arian cyhoeddus.
Codiad cyflog
Hefyd mae Cronfa'r Loteri Fawr wedi atal eu taliadau.
Roedd adroddiad Dr Paul Dunn, cynbennaeth corff cydraddoldeb yn Lloegr, wedi cyfeirio at honiadau fod Mr Malik wedi cymeradwyo ei godiad cyflog ei hun.
Ac roedd honiadau bod ei ferch, Tegwen Malik, wedi cael swydd a'i dyrchafu nifer o weithiau "heb gystadleuaeth fewnol nac allanol".
Casglodd yr adroddiad fod Mr Malik wedi defnyddio arian yr elusen yn amhriodol, gan gynnwys talu dyledion cardiau credyd oedd yn werth £9,340 a bod ei gyflog wedi codi i £65,719 heb gymeradwyaeth y bwrdd.
Casgliad arall oedd bod Mr Malik "wedi awdurdodi taliadau anaddas" allai olygu "camymddygiad dybryd".
Gwahardd
Yr argymhelliad oedd y dylid gwahardd Mr Malik a'i ferch o'u swyddi ar unwaith tra bod gwrandawiad disgyblu'n cael ei gynnal.
Mae'r ddau wedi cael rhybudd llafar ac ysgrifenedig ond yn eu swyddi o hyd.
Dywedodd Dr Dunn nad oedd yn fodlon rhoi sylw am adroddiad cyfrinachol ond dywedodd wrth raglen Dragon's Eye ei fod yn poeni nad oedd ei argymhellion wedi eu gweithredu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn ymchwilio er mwyn sicrhau bod arian cyhoeddus wedi ei wario'n briodol.
Dywedodd Heddlu De Cymru "eu bod yn ymwybodol o'r sefyllfa sy'n cael ei hasesu ar hyn o bryd".
Yn 2003 comisiynodd Llywodraeth y Cynulliad adroddiad am yr elusen ond nid yw wedi ei gyhoeddi.