Yr MoD yn gwario miliynau ar ysgolion preifat i osgoi'r Gymraeg

Mae'r Fali ar Ynys Môn yn un o bedwar lleoliad lle mae'r gweithlu yn medru cael y lwfans yng ngogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwario tua £1m y flwyddyn ar anfon plant i ysgolion preifat Saesneg yng ngogledd Cymru oherwydd bod "ysgolion y wladwriaeth yn addysgu... yn y Gymraeg".
Talodd yr MoD £1,019,000 mewn lwfans ysgol ddydd yng ngogledd Cymru ar gyfer 83 o blant yn 2024/2025, a £942,000 ar gyfer 79 o blant yn 2023/2024.
Maen nhw'n dweud fod hyn er mwyn "lleihau aflonyddwch i'w haddysg", o dan arfer hirhoedlog.
Mae'r lwfans yn talu ffioedd dysgu hyd at uchafswm o £7,585 y tymor - felly £22,755 y flwyddyn - ar gyfer gweithlu y Llu Awyr Brenhinol sy'n byw yn siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd, Ynys Môn neu Sir y Fflint.
Daeth y wybodaeth i'r amlwg yn dilyn cais gan BBC Cymru o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth.
Mae Plaid Cymru wedi'i alw'n "wastraff llwyr o arian" ac yn "sarhad i'n hiaith", tra dywedodd y Ceidwadwyr y dylai rhieni allu dewis iaith addysg eu plant.
'Ysgol annibynnol Saesneg'
Mae gwefan y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) yn dweud wrth eu gweithlu: "Os ydych chi'n byw ac yn gwasanaethu yng ngogledd Cymru, lle mae ysgolion y wladwriaeth yn addysgu rhai neu'r holl wersi yn y Gymraeg, efallai y byddwch chi'n dewis anfon eich plant i ysgol annibynnol Saesneg.
"Cyn belled â'ch bod chi yng nghwmni eich teulu yn eich gorsaf ddyletswydd, gallwch chi ddefnyddio'r lwfans hwn i dalu cost ffioedd dysgu, teithiau astudio maes/cyrsiau addysgol preswyl a chludiant dyddiol."
Dywedodd yr MoD wrth BBC Cymru: "Pwrpas y lwfans ysgol ddydd yng ngogledd Cymru yw cynorthwyo teuluoedd sy'n gwasanaethu yn y rhanbarth, lle mae'r Gymraeg yn brif gyfrwng addysg leol y wladwriaeth.
"Gan fod symud yn rhan o fywyd yn y gwasanaeth, gall plant wynebu symud yn gyson, ac mae'r lwfans yn anelu at leihau'r aflonyddwch i'w haddysg.
"Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cefnogi'r aberthau y mae pobl sy'n gwasanaethu, a'u teuluoedd, yn eu gwneud, ac mae'r lwfans yn cynorthwyo gyda chostau addysg ddydd annibynnol trwy gyfrwng y Saesneg."

Gwasanaethodd y Tywysog William yn Y Fali rhwng 2010 a 2013
Mae'r lwfans yn gallu cael ei dalu i staff sy'n gwasanaethu yn un o'r sefydliadau canlynol:
Y Fali, Ynys Môn;
Canolfan Hyfforddi Mynydd y Gwasanaethau ar y Cyd, Ynys Môn;
Adain Hyfforddi Mynydd y Gwasanaethau ar y Cyd, Llanrwst;
Corfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgol, Caernarfon.
Yr ysgolion sy'n gymwys ar gyfer y lwfans yw Ysgol Treffos, Llansadwrn, Ynys Môn; Ysgol Baratoi Rydal Penrhos, Bae Colwyn; St Gerard's ym Mangor; a Choleg Dewi Sant yn Llandudno.
Mae'r lwfans yn unigryw ar gyfer pobl sydd wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru, gan ei fod "wedi'i gyfyngu i'r ardaloedd hynny lle mae addysgu yn y sector gwladol ar sail ddwyieithog neu nad yw'n Saesneg".
Ond gall pobl sy'n gwasanaethu mewn mannau eraill yn nhair cangen Lluoedd Arfog Prydain - y Fyddin, y Llynges Frenhinol a'r Llu Awyr - hawlio "lwfans parhad addysg" tuag at gost ysgol breswyl neu ysgol ddyddiol â ffioedd i'w plant, gyda chyfraniad rhieni o leiaf 10%.
'Sarhad i'n hiaith'
Wrth ymateb ar ran y Ceidwadwyr, dywedodd Natasha Asghar AS: "Mae aelodau o'r Lluoedd Arfog Prydeinig yn symud o gwmpas y wlad a'r byd, ac mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn bob amser wedi ceisio sicrhau bod gan eu plant gysondeb mewn addysg.
"Er ein bod yn cefnogi yn llwyr addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, mae'n bwysig cofio bod dwy iaith swyddogol yn ein gwlad, Saesneg a Chymraeg, a dylai cynghorau lleol ac awdurdodau addysg ddarparu ar gyfer y ddwy.
"Dylai rhieni bob amser gael dewis y cyfrwng y mae eu plant yn cael eu haddysgu ynddo."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros addysg, Cefin Campbell AS: "Nid yn unig bod hyn yn wastraff llwyr o arian, mae'n sarhad i'n hiaith.
"Ni allaf feddwl am unrhyw reswm dilys i fod yn gwario'r fath arian pob blwyddyn, ar atal pobl ifanc sy'n byw yng Nghymru rhag cael y cyfle i ddysgu'r Gymraeg.
"Mae dwyieithrwydd yn cyfoethogi bywyd ac yn cefnogi datblygiad pobl ifanc, ond mae Llywodraeth y DU mae'n amlwg yn ddall i hyn.
"Mae'r arian hwn yn enghraifft berffaith o agwedd pleidiau San Steffan tuag at Gymru a'r Gymraeg – sef anwybodaeth a sarhad."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd5 Mehefin