Croesawu cyfrol o golofnau ffermwr o Lanerfyl a fu farw

Richard TudorFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw y diweddar Richard Tudor mewn damwain tractor yn 2020

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfrol "hynod o werthfawr" wedi ei chyhoeddi sy'n gofnod o brofiadau ffermwr arloesol o Lanerfyl ym Mhowys.

Yn Ebrill 2020 bu farw'r ffermwr Richard Tudor mewn damwain tractor.

Roedd Mr Tudor, 45 o Fferm Llysun, yn hynod o weithgar yn ei gymuned ac am bum mlynedd bu'n ysgrifennu colofn fisol i'r papur bro lleol - Plu'r Gweunydd.

Ffrwyth y cyfraniadau hynny yw llyfr Dyddiaduron Richard Tudor Llysun, sydd wedi eu cyhoeddi gan wasg Y Lolfa.

'Ffordd dda i gofio Rich'

Syniad Cath Tudor, chwaer Richard sy'n filfeddyg yng Nghaerfyrddin, oedd cyhoeddi colofnau'r papur bro yn un gyfrol.

"Roedd Richard wedi sgwennu erthyglau yn y Plu am bum mlynedd ac roedd pawb yn yr ardal yn mwynhau nhw," meddai.

"O'dd o'n sgwennu am ffermio ac o'dd pawb â diddordeb - roedd hyd yn oed pobl o'dd ddim yn ffermio yn mwynhau'r erthyglau.

"Ro'n nhw'n sôn am y ci a'r gwyddau bach. Felly fel teulu ro'n ni'n teimlo bod cyhoeddi rhain yn eitha' pwysig. Ma' wedi bod yn ffordd reit dda i gofio Rich fel teulu."

Ychwanegodd: "O'dd hi ddim yn broses hawdd rhoi'r llyfr at ei gilydd a mynd trwy erthyglau Rich eto, ond wrth wneud hynny ma' wedi dod â lot o atgofion nôl, ac ar y cyfan ambell wên.

"O'dd o wedi byw bywyd llawn, o'dd o wedi gwneud lot yn ei fywyd, o'dd gynna fo'r profiad i sgwennu am wahanol bethau.

"Doedd o byth yn sgwennu lot am ei hun, ond yn sgwennu am be' o'dd yn digwydd yn yr ardal, a 'chydig bach o be' oedd yn digwydd ar y ffarm yn Llysun.

"Roedd o wrth ei fodd hefyd yn sgwennu am brosesau amaethyddiaeth yng Nghymru a thrwy'r byd - o'dd o'n mynd mewn i'r politics a Brexit.

"Ma'n reit ddiddorol edrych nôl a gweld ei farn o ar amryw o bethau."

Cath Tudor a'i rhieni Tom ac Ann Tudor yn y lansiadFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cath Tudor a'i rhieni Tom ac Ann Tudor yn lansiad y gyfrol

Yn ystod y degawd diwethaf dywed y Gweithgor Iechyd a Diogelwch bod un person yr wythnos, ar gyfartaledd, yn y Deyrnas Unedig wedi marw o ganlyniad uniongyrchol gwaith amaethyddol.

Mae llawer mwy wedi cael eu hanafu.

Roedd marwolaeth Richard Tudor yn ergyd drom i'r teulu, a hynny wrth iddyn nhw newid o gadw gwartheg bîff i dda godro.

Ar y pryd roedd Morgan, mab Richard Tudor, ond yn 17.

"O'dd o'n reit rhyfedd yn y dechrau wrth i ti ddelio gyda dau beth ar unwaith – colli fy nhad a bod 'na rywbeth newydd i gymryd 'mlaen," meddai wrth raglen Ffermio ar S4C.

"Dwi'n meddwl bod y ffaith bod o'n rhywbeth newydd, ddim yn 'neud ti anghofio am y llall, ond roedd modd rhoi un peth i un ochr a concentratio ar un peth.

"Ar y dechrau o'dd gynnon ni 350 o wartheg – mae gynnon ni 400 bellach. Yn ystod yr ail flwyddyn o gadw gwartheg godro gawson ni TB.

"'Dan ni ar ein chweched blwyddyn godro rŵan – mae'n anodd credu."

Dyddiaduron Richard Tudor LlysunFfynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Mae colofnau misol Richard Tudor i bapur bro Plu'r Gweunydd wedi cael eu casglu i greu cyfrol

Mae tad Richard, Tom Tudor, hefyd yn falch bod erthyglau ei fab wedi cael eu cyhoeddi fel un gyfrol.

"Be' o'n i'n hoffi yng ngholofnau Richard oedd nad oedd o'n siarad am fo'i hun. O'dd o'n sgwennu am amaethyddiaeth a phobl yr ardal," meddai.

"O'dd o'n fentrus ers o'dd o'n ifanc. Fuodd o allan yn America... o'dd o wedi teithio'r byd. Yn digwydd bod ro'n i'n ffodus bo' ni'n gallu gadael iddo fynd.

"Pan ddo'th o nôl mi weithiodd yn galed. O'dd o'n bwysig ganddo i roi cyfle i bobl ifanc ac ro'dd o'n teimlo bod hi'n bwysig i Morgan gael sialens. Ddaru ni ddim anghytuno o gwbl."

'Wedi gwneud cymaint yn ei fywyd'

Gydag yntau wedi teithio'n helaeth, yn enillydd ffermwr bîff y flwyddyn trwy Brydain yn 2016, roedd cryn edrych ymlaen at golofn Richard Tudor yn y papur bro.

Un sy'n croesawu'r gyfrol yn fawr yw Beryl Vaughan, sydd wedi rhoi teyrnged i Richard ar ddechrau'r gyfrol.

"Buodd Richard yn sgwennu yn y Plu Gweunydd am bum mlynadd, bron yn ddi-dor a gan ei fod o'n trafeilio gymaint roedd pawb yn edrych ymlaen at gael y Plu er mwyn cael darllen colofn Richard," meddai.

"Roedd hi'n golofn mor ddiddorol. Er mai colofn amaeth oedd hi odd hi'n cwmpasu gymaint gan ei fod wedi trafeilio dipyn ac wedi gweld gymaint ac yn sôn sut oedd petha yn naturiol yn Llysun ar y pryd... a be odd cyflwr y byd bron a hefyd yn sôn am gyflwr byd amaeth.

"Oedd na edrych mawr am y golofn bob mis, colled ofnadwy oedd colli Richard.

"O'dd rhoi teyrnged i Richard mewn gofod byr yn anodd," meddai.

"Be' sy'n dda yw bod Cath wedi cael y weledigaeth yma i roi'r cofnodion ar gof a chadw.

"Mae yna groeso mawr i'r gyfrol yn yr ardal a thu hwnt."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig