Kit Symons i gynorthwyo Chris Coleman efo Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr pêl-droed newydd Cymru wedi dweud y bydd ei gyn-gydaelod yn nhîm Cymru, Kit Symons, yn rhan o'i dîm hyfforddi.
Ar hyn o bryd mae Symons, 40 oed, yn hyfforddwr academi gyda Fulham.
Cafodd Coleman ei benodi yn rheolwr yr wythnos diwethaf i olynu'r diweddar Gary Speed fu farw ym mis Tachwedd.
Dydi Coleman ddim wedi siarad eto â Raymond Verheijen, un o ddau is-hyfforddwr Speed.
Mae disgwyl i Osian Roberts, yr is-hyfforddwr arall, barhau gyda charfan Cymru.
Llwyddodd y ddau gyda Speed i ennill pum buddugoliaeth o'r 10 gêm.
48fed
Am y tro cyntaf ers mis Ebrill 2003 mae Cymru yn 50 ucha rhestr detholion Fifa, yn 48fed.
Rhoddodd Symons y gorau i chwarae pêl-droed yn 2005 ar ôl ennill 37 cap i Gymru.
Mae disgwyl iddo gael ei benodi yr wythnos nesaf.
"Yn sicr, mae'n gwneud gwaith gwych yn Fulham ar hyn o bryd gyda'r rhai dan 18 oed," meddai Coleman.
"Maen nhw ar frig eu cynghrair ac mae gan bobl barch tuag ato yn Fulham."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012